Gwirfoddolwyr banciau bwyd 'o dan straen aruthrol'

  • Cyhoeddwyd
Banc Bwyd Arfon

Mae banciau bwyd yn dweud eu bod wedi dosbarthu mwy nag erioed o barseli i bobl yng Nghymru y llynedd.

O'r 185,230 gafodd eu rhannu gan Ymddiriedolaeth Trussell rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, roedd 69,683 wedi mynd i blant.

Yn ôl y corff, mae cynnydd o 85% wedi bod yng Nghymru ers 2017/18 ac roedd cynnydd o 41% y llynedd yn unig - y cynnydd mwyaf drwy'r DU gyfan.

Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i ddatblygu cynllun cenedlaethol i fynd i'r afael â'r sefyllfa.

Dywed y llywodraeth eu bod yn buddsoddi i helpu cymunedau ac unigolion yn ystod yr argyfwng costau byw.

Rhannu parsel bob wyth eiliad

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, mae rhai o'r banciau bwyd a'u gwirfoddolwyr "dan straen aruthrol" oherwydd y prysurdeb yn eu canolfannau.

Mae eu ffigyrau diwedd blwyddyn yn dangos bod 56,000 o bobl wedi defnyddio un o'r 150 banc bwyd yng Nghymru am y tro cynta' yn eu bywyd y llynedd.

Rhagfyr 2022 oedd y mis prysura' ar gofnod gyda 24,662 o becynnau bwyd brys yn cael eu dosbarthu yng Nghymru. Ar draws y DU, roedd yna barsel wedi'i rannu bob wyth eiliad.

Mae'r elusen yn dweud mai'r argyfwng costau byw ydy'r prif reswm ond bod y pandemig hefyd wedi bod yn ffactor wrth i bobl wynebu pwysau ariannol.

Un ganolfan sydd wedi gweld cynnydd mwy na'r cyfartaledd y llynedd ydy Banc Bwyd Arfon yng Nghaernarfon.

Dywedodd y rheolwr Trey McCain: "'Dan ni wedi bwydo dros 5,000 o bobl yn Arfon, ac mae hynny'n gynnydd sylweddol. Mae'n 60% yn fwy na'r flwyddyn gynt."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Trey McCain yn dweud bod y cyfnod diweddar wedi bod yn fwy o straen

Mae'n esbonio bod y banc bwyd hefyd yn darparu pecynnau gyda bwyd sydd ddim angen ei goginio.

"'Dan ni'n gweld pobl yn dod aton ni sydd wedi rhedeg allan o nwy, ella nwy mewn potel, a maen nhw'n gofyn i ni am bethau allen nhw fwyta heb eu coginio nhw," meddai.

Er bod y staff a'r gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i helpu, meddai, mae'n dweud bod y cyfnod diweddar wedi bod yn fwy o straen arnyn nhw a'r adnoddau.

Ychwanegodd: "Mae'n criw ni yma, maen nhw yn barod i helpu pobl, ond maen nhw'n dechrau poeni pan maen nhw'n gweld cymaint sy'n mynd allan a cyn lleied sy'n dod mewn.

"'Dan ni angen pwysleisio i bobl be' 'dan ni'n darparu ydy pecyn tridiau o fwyd i bobl sydd mewn argyfwng. Nid gwasanaeth ydy hwn i bobl sydd eisiau help, ond i bobl sy'n profi argyfwng.

"Mae pawb yn profi argyfwng o bryd i'w gilydd ond be' 'dan ni'n gweld ar hyn o bryd ydy methiannau systemig."

Prisiau'n codi

Mae Dorris Williams yn gwirfoddoli gyda Banc Bwyd Arfon ers 11 mlynedd ac yn gweld pethau wedi prysuro'n arw yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy o bobl yn dod i'r banc bwyd bob wythnos, medd Dorris Williams

"Mae pethau mor ddrwg rŵan" meddai. "Mae pobl yn stryglo yn ofnadwy rwan efo'r cost of living 'ma."

"Ma' bob dim, dim yn unig y neges, ond mae bob dim wedi mynd fyny - biliau electric a gas a bob dim.

"Mae'n mynd yn brysur ofnadwy yma rŵan, mae 'na fwy a fwy o bobl yn dod i mewn bob wythnos."

Yn eu plith mae Alaw Davies, mam i ddau o blant sy'n methu gweithio ar hyn o bryd oherwydd ei sefyllfa deuluol.

"Mae'r partner yn gweithio," meddai, "ond mae prisiau bob dim jyst 'di mynd yn skyrocketing a prin dwi'n gallu fforddio llawer dim mwy."

Disgrifiad o’r llun,

Alaw Davies: "Dwi'n falch bod nhw yma"

"Dwi'n gorfod meddwl os ydy'r plant yn cael eu bwydo neu ydy'r electric yn mynd ar yn tŷ.

"Mae'n anodd - rhaid i fi gael electric ond rhaid i fi gael bwyd yr un ffordd.

"Os fasa'r foodbank ddim yma fasa'r plant ddim efo bwyd - dwi'n byw efo'r food bank ar y funud.

"Be dwi'n trio 'neud ydy, os ydw i efo pres dwi'n rhoid o'n ôl hefyd - if you take, then you give.

"Dwi'm yn berson sy'n licio gofyn am help ond dwi'n falch bod nhw yma hefyd. Maen nhw yma i helpu."

'Stryglo byw'

Mae Harri Morris yn weithiwr cefnogi ac yn casglu bwyd ar ran nifer o'i gleientiaid.

Mae o'n eu gweld wedi mynd yn llawer mwy dibynnol ar fanciau bwyd a thanwydd yn ddiweddar.

"Mae costau'n mynd i fyny lot," meddai.

"Mae'r rhan fwya' o clients fi yn stryglo yn byw o ddiwrnod i ddiwrnod - mae o'n waeth na be' mae o 'di bod ers blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri Morris yn weithiwr cefnogi

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi "buddsoddi dros £1.6bn i helpu pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, gan gynnwys bron i £6m i helpu cymunedau ac unigolion gyda chymorth bwyd brys ac i ddatblygu atebion lleol cynaliadwy i helpu taclo achosion tlodi bwyd."

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r nifer cynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd yn hynod bryderus ac rydym angen i lywodraeth y DU, sydd a'r grymoedd dros drethi a'r system les, i gymryd camau brys nawr."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod "wedi ymrwymo i gael gwared ar dlodi ac yn cydnabod y pwysau yn sgil costau byw cynyddol, a dyna pam rydym wedi codi budd-daliadau 10.1% yn ogystal â chynyddu'r Cyflog Byw Cenedlaethol y mis yma fwy nag erioed o'r blaen."

Pynciau cysylltiedig