Ren: Rhif un y siartiau yn 'fuddugoliaeth' i'r Cymro

  • Cyhoeddwyd
Ren

Mae artist o Gymru wedi cyrraedd brig y siartiau cerddorol a churo'r arwr pop o'r 80au, Rick Astley.

Mae Ren Gill o Ynys Môn wedi cyrraedd rhif un yn siart yr albymau gan ddisodli artist y gân adnabyddus 'Never Gonna Give you Up'.

Dywedodd Official UK Charts fod Ren Gill wedi cyrraedd brig gyda'i albwm Sickboi, gan werthu dros 6,000 yn fwy o gopïau nag Astley.

Mae'r ddau wedi bod benben a'i gilydd i gyrraedd rhif un drwy'r wythnos.

Dyma'r tro cyntaf i Ren gyrraedd y siartiau, a hynny gyda'i ail albwm.

Dywedodd Ren, sy'n wreiddiol o Ddwyran: "Mae'r cyfan wedi digwydd oherwydd y ffans. Rydym wedi gwneud hyn yn annibynnol, a'r prif reswm dros gyrraedd fan hyn yw cefnogaeth y ffans.

"Dwi eisiau dweud diolch yn fawr iddyn nhw."

"Mae'n teimlo mor anhygoel. I mi, fy ffrindiau a phawb o'm cwmpas sydd wedi gweithio arno."

Fe wnaeth Ren ddioddef o Glefyd Lyme llynedd, a bu'n derbyn triniaeth ddwys yng Nghanada.

Ychwanegodd: "Mae hyn yn golygu cymaint i mi, mae'n teimlo fel buddugoliaeth wedi fy salwch."

Pynciau cysylltiedig