John Haydn Davies: Cofio'r arweinydd corawl o Gwm Rhondda

  • Cyhoeddwyd
John Haydn DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd plac ei osod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gartref John Haydn Davies yn Nhreherbert

Mae plac wedi ei ddadorchuddio i gofio arweinydd corawl o Gwm Rhondda.

Roedd John Haydn Davies yn arwain Côr Meibion Treorci am dros 20 mlynedd, a fe oedd wrth y llyw pan gafodd y côr enwog ei ailsefydlu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Yn ystod ei gyfnod fel arweinydd, fe gafodd y côr un o'u cyfnodau mwyaf llwyddiannus, gan gipio'r brif wobr i gorau meibion yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar wyth achlysur.

Ddydd Sadwrn cafodd plac ei osod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ei gartref yn Nhreherbert.

Un fu'n annerch yn y seremoni dadorchuddio oedd yr hanesydd yr Athro Gareth Williams, sydd wedi ysgrifennu am hanes corau yng nghymoedd y de.

"Rwy wastad - ers on i'n fachgen mewn trowsus byr - wedi edmygu John Haydn Davies fel cerddor, fel arweinydd," meddai "ac wedi edmygu Côr Meibion Treorci pan oedden nhw yn eu hanterth".

"Fyddai fyth yn anghofio rhai o'r perfformiadau glywes i ganddyn nhw."

'Neb yn gadael yr ysgol ddim yn gallu canu'

Wedi'i eni ym Mlaencwm ym 1905, roedd John Haydn Davies yn athro yn y pentref am flynyddoedd

Yn ôl ei fab, y cyn aelod Cynulliad, Geraint Davies "odd e'n dweud d'odd neb yn gadael yr ysgol ddim yn gallu canu - odd e'n dweud odd pob un yn gallu canu, os oedden nhw'n cael eu dysgu yn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Geraint Davies a Susan Lewis, mab a merch John Haydn Davies

Bu'n arweinydd Cymdeithas Gorawl Blaencwm yn y 1930au, cyn cael ei benodi yn arweinydd Côr Meibion Treorci, pan gafodd y côr ei ailsefydlu ym 1946 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Wrth gofio'r cyfnod hwnnw mewn cyfweliad ar Radio Cymru yn yr 80au, bu John Haydn Davies yn son am y ffaith nad oedd llawer o'r dynion ifanc ymunodd a'r côr yr adeg hynny yn gallu darllen cerddoriaeth

"Beth nes i oedd ysgrifennu mas yn sol-ffa nifer o emynau cyfarwydd - yn gwbl syml, a'u canu nhw."

Cafodd y côr lwyddiant mawr yn Eisteddfod y Glowyr, a'r Eisteddfod Genedlaethol, fel bu Geraint Davies yn cofio.

"Cof cynta' fi oedd Eisteddfod Aberystwyth ym 1952, odd yn rhywbeth arbennig a wedyn chi'n cofio pob eisteddfod - Ystradgynlais, Aberdar, wedyn Glyn Ebwy a Chaernarfon.

"Odd yr amserlen yn byrlymu fel oeddech chi'n mynd yn agosach at yr eisteddfod ac o'n i'n lwcus, ces i'r cyfle i gystadlu gyda nhw y tro diwetha buon nhw'n cystadlu ym 1967 yn y Bala, ac oedd hwnna'n brofiad arbennig."

Bu Côr Meibion Treorci yn canu yn y seremoni i ddadorchuddio'r plac brynhawn Sadwrn, a'r aelodau presennol yn falch o fod yno.

'Creu sŵn arbennig'

"Mae heddi yn golygu lot fawr i fi achos odd 'nhad i yn y cor yn y cychwyn cynta pryd oedd John Haydn yn arweinydd, felly nol yn 1946/47" meddai Geraint James

"Wnaeth John Haydn gymaint i'r côr ailsefydlu'r côr ar ôl yr ail ryfel byd," meddai David Hughes.

Disgrifiad o’r llun,

David Hughes a Geraint James, aelodau o'r côr

"Heb ei ddechreuad e a'i lwyddiant e, falle fydden ni ddim ma heddi mor llwyddiannus ac yn ni yn dal i fod gobeithio

"Diolch iddo fe am neud y dechreuad ar ôl yr Ail Ryfel Byd."

Yn ôl yr Athro Gareth Williams, roedd John Haydn Davies yn llwyddo i gael ei gôr i greu sŵn arbennig.

"Roedd e'n ffafrio'r tenoriaid uchel - roedd rhyw 40 ohonyn nhw pan oedd Treorci ar flaen y gad, ac odd ei sŵn yn nodweddiadol - rhyw sŵn fel clychau'n canu"

"Rhywun a ddylanwadwyd gan y sŵn yna, ac a gafodd cryn lwyddiant yn cael ei gôr ei hunan i ganu fel na, oedd Noel Davies a Chor Meibion Pontarddulais, ac odd John Haydn a Noel Davies yn gyfeillion."

'Haeddu pob canmoliaeth'

Mae Susan Lewis, merch John Haydn Davies yn ymfalchïo yn y ffaith fod pobl y Rhondda yn dal i gofio cyfraniad ei thad, dros 30 mlynedd ers ei farwolaeth

"Mae'r ardal ble bu'n gweithio ac yn byw ddim yn fawr iawn - hanner ffordd lawr Cwm Rhondda, ond mae wedi effeithio ar ardal ac ar draws y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hanesydd, yr Athro Gareth Williams, wedi ysgrifennu am hanes corau meibion a'u pwysigrwydd ac roedd yn annerch yn ystod y seremoni dadorchuddio'r plac

Yn ôl yr Athro Gareth Williams, mae'r ffaith fod y plac wedi'i osod ar gartre'r teulu yn Nhreherbert yn allweddol bwysig

"Mae'n haeddu pob canmoliaeth, oherwydd roedd John Haydn yn gawr nid yn unig yn Nhreherbert neu yn y Rhondda neu yng Nghymru ond ym maes cerddoriaeth.

"Roedd ei gyfraniad yn enfawr, ac er iddo farw ym 1991, mae ei ddylanwad a'i enw yn parhau."

Pynciau cysylltiedig