Codi tâl parcio ger traeth Dinas Dinlle yn poeni pobl leol
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i godi tâl parcio ger traeth poblogaidd yng Ngwynedd wedi cythruddo pobl leol.
Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu dechrau ar gynllun £410,000 i wella maes parcio Dinas Dinlle yn fuan.
Ail ran y cynllun ydy codi ffioedd parcio er mwyn gwneud arbedion ariannol.
Yn ôl rhai trigolion lleol, bydd codi tâl parcio yn ergyd i fusnesau a bydd llai o bobl yn mynd yno.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod lleol y byddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn digwydd cyn y byddai'r cyngor yn dod i unrhyw benderfyniad.
Cynllun i godi tâl ers 2019
Roedd gan y cyngor gynllun i godi tâl ar safle'r unig draeth yn Arfon yn 2019 nes i Covid ei atal.
Roedd mwy na 30 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus mewn caffi yn Ninas Dinlle ar 26 Hydref.
Eglurodd Llŷr Jones, Uwch Reolwr o Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, bod cais am grant o £300,000 wedi bod yn llwyddiannus, ond bod rhaid gwario'r arian cyn diwedd Mawrth 2024.
Mae'r cyngor yn bwriadu gwneud gwelliannau i'r maes parcio sydd "wedi dirywio yn ei gyflwr".
Bydd yn cynnwys ail-wynebu'r maes parcio, gosod mannau parcio penodol, cyflwyno trefn unffordd, a lloches bws.
Yna mae'r cyngor yn bwriadu rheoli'r defnydd o'r safle, allai gynnwys ffioedd parcio a gwahardd aros dros nos.
'Hollol iawn fel mae o'
Dywedodd Mr Jones bod y cyngor yn agored i gynigion o ran tâl parcio, gan gynnwys tâl tymhorol neu flynyddol, awr am ddim a ffioedd "rhesymol"; er enghraifft £2 am bedair awr a £5 am 12 awr.
Ond mae rhai yn bryderus bod y cyngor yn gwario ar y maes parcio er mwyn cyfiawnhau codi ffioedd yno.
Dywedodd Ffion McCarthy sy'n byw rhwng Dinas Dinlle a Glynllifon: "Mae'r lle parcio yn hollol iawn fel mae o.
"Pam ydan ni yn gwario ar ddiffinio ardaloedd yr holl faes parcio yn hytrach na just diffinio yr ardaloedd sydd angen fel yr ardal i bobl anabl?
"Dydi o ddim yn angenrheidiol os na bod y cyngor isio codi tâl ar gyfer yr holl faes parcio."
Mae Dyfed Williams yn byw ar gyrion Dinas Dinlle ers 30 mlynedd ac arferai redeg Bwyty Lleu yno. Mae'n gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i dalu am barcio.
"Yr arian sydd isio ei wario ar Dinas Dinlle ydy y Faner Las i hybu economi, helpu busnesau bach lleol.
"'Dan i'n ardal ddifreintiedig, mae ffi fach yn mynd i fod yn ffi fawr i lot o bobl."
Mae'r pentref yn gartref i siopau, caffis a dau faes carafanau, ac roedd sawl un yn y cyfarfod yn bryderus na fyddai pobl yn gwario yn y busnesau ar ben talu am barcio.
Dywedodd Anwen Ellis, perchennog caffi Braf: "Mae'r deadline dechra' mor agos 'wan, dwi ddim yn siŵr iawn faint o ymroddiad fydd yn ein geiria' ni dros y gymuned.
"'Dan i'n gymuned eitha' bach yn fan'ma a dwi'n meddwl bod 'na effaith eitha' mawr yn mynd i ddod ohono fo a 'dan i isio maethu'r ardal i ni ac i'r dyfodol."
Mae Catrin Williams sy'n byw yn Llandwrog yn mynd i Ddinas Dinlle o leiaf bum bore yr wythnos ar hyn o bryd.
Ond mae'n dweud y byddai'n "llai tebygol" o ddefnyddio ei "lan-môr lleol i fynd â'r ci am dro" petai hi'n gorfod talu.
Byddai Steve Boyd o Rostryfan yn fodlon talu "swm bychan" i ddefnyddio'r traeth, "ond dim byd ridiculous".
Mae Cyngor Cymuned Llandwrog, sy'n gwasanaethu Dinas Dinlle, wedi gwrthwynebu'r penderfyniad i gyflwyno'r ffioedd parcio, ond wedi croesawu'r gwelliannau i'r maes parcio.
Roedd y cynghorydd cymuned Marnel Pritchard yn siomedig na chafodd hi nac aelodau eraill y cyngor cymuned wybod am y cyfarfod nes ychydig oriau ynghynt.
Mae'r cyngor wedi "ymddiheuro nad oedd mwy o rybudd wedi ei roi ynghylch y trefniadau ar gyfer y cyfarfod".
£40,000 o incwm drwy godi ffi
Mae Cyngor Gwynedd yn amcangyfrif y bydd codi tâl parcio yn cynhyrchu incwm o tua £40,000 y flwyddyn, ac y byddai Dinas Dinlle yn elwa o 15% o'r incwm, gyda'r gweddill yn mynd i gyfarch y bwlch ariannol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Dros y misoedd nesaf byddwn yn cynnal trafodaethau yn lleol i ystyried y trefniadau ar gyfer rheoli'r maes parcio i'r dyfodol, gan gynnwys yr opsiwn posib o godi ffioedd parcio, gwella'r trefniadau cynnal a chadw a'r trefniadau ar gyfer osgoi cam-ddefnydd o lecynnau o fewn y maes parcio.
"Rydym yn ddiolchgar o'r sylwadau sydd eisoes wedi eu derbyn ac edrychwn ymlaen at gynnal trafodaethau pellach gyda'r gymuned maes o law."
Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod pryderon sydd wedi eu gwyntyllu'n lleol am y posibilrwydd o godi ffi parcio, a byddem yn pwysleisio y byddai angen gwaith pellach gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus llawn cyn y gellid cyflwyno newidiadau o'r fath."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023