Pryder am gynllun cyngor i godi tâl parcio yn Ninas Dinlle
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i godi tâl am barcio ger traeth Dinas Dinlle wedi cythruddo pobl leol.
Yn ôl rhai o'r trigolion, bydd codi tâl am barcio yn cosbi pobl sy'n mynd i gerdded ar y traeth er mwyn cadw'n heini.
Ond dywedodd y cyngor sir bod angen gwneud arbedion a chynyddu incwm er mwyn ymateb i fwlch o £13m yn y gyllideb.
Dywedodd Dyfed Williams, aelod o Gyngor Cymuned Llandwrog, bod cyflwyno'r tâl yn "gam negyddol iawn".
Mae Cyngor Cymuned Llandwrog wedi gwrthwynebu'r penderfyniad yn unfrydol.
Dywedodd Mr Williams wrth y Post Cyntaf: "Mae traeth Dinas Dinlle yn draeth bendigedig ac mae pobl leol yn dod yma i fwynhau.
"Dydan ni ddim yn bell o ardaloedd difreintiedig a dim pawb sydd ag arian i dalu am barcio.
"'Da ni'n gweld cymaint o sôn am hybu lles ac iechyd ac yn y blaen a dwi'n meddwl bod o'n gam negyddol iawn i godi am barcio mewn lle fel hyn, lle mae pobl yn dod i wneud yr union beth yna."
Ychwanegodd: "Mae yna dri neu bedwar busnes yn Ninas Dinlle ac mi fedra i ddweud o brofiad nad ydy o'n hawdd rhedeg busnes yma.
"Mi fydd yn troi pobl i ffwrdd oddi wrth Dinas Dinlle ac mae o'n mynd i'w gwneud hi'n anodd iawn ar y busnesau sydd yn trio llwyddo yma."
Mae Wyn Williams, sydd wedi byw yn Ninas Dinlle ers 50 mlynedd, yn gwrthwynebu penderfyniad y cyngor sir: "Mae cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau hurt weithiau a dydyn nhw ddim yn dysgu o'r penderfyniadau yna.
"Maen nhw'n codi am barcio mewn trefi a 'da ni'n gwybod be' sy'n digwydd i drefi erbyn hyn - maen nhw'n marw.
"Ydyn nhw rŵan eisiau lladd ein traethau ni? Rydan ni mor ddibynnol ar dwristiaeth."
Penderfyniad 'anodd'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod y penderfyniad wedi bod yn un anodd ond bod rhaid edrych ar bob dewis posib er mwyn osgoi toriadau ym meysydd addysg a gofal cymdeithasol.
"Yn ystod cyfarfod o'r cyngor llawn ym mis Mawrth eleni, derbyniodd y cyngor gyfuniad o fesurau er mwyn er mwyn cydbwyso'r gyllideb am y flwyddyn ac osgoi torri gwasanaethau ym meysydd addysg a gofal cymdeithasol.
"Un o'r cynlluniau a gytunwyd oedd cyflwyno ffi parcio dymhorol ar gyfer traeth Dinas Dinlle yn ogystal â chaniatáu i wardeiniaid gymryd camau yn erbyn modurwyr sy'n parcio'n anghyfreithlon neu'n ymddwyn yn anystyriol - fel y trefniant sydd eisoes mewn lle ar nifer o draethau eraill o fewn y sir."
Ychwanegodd y datganiad y byddai'r cyngor yn gweithio gyda'r gymuned leol er mwyn lliniaru effaith negyddol posib fyddai'n deillio o'r newidiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018