Rhybudd i baratoi am fwy o law trwm ganol yr wythnos

  • Cyhoeddwyd
Map rhybudd tywydd glaw dydd Mercher 1 TachweddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map y rhybudd tywydd am law trwm ar gyfer nos Fercher a dydd Iau wrth i Storm Ciarán daro'r DU

Mae yna rybudd i bobl yn ne a chanolbarth Cymru baratoi am ragor o dywydd garw ganol yr wythnos wedi glaw trwm y penwythnos.

Daeth rhybudd melyn am law trwm, oedd mewn grym mewn mannau yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Penfro, Powys ac Abertawe, i ben am 09:00 ddydd Llun.

Ond er i'r amodau ostegu dros dro, mae'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl i bethau ddechrau gwaethygu eto wrth i storm fawr nesaf y tymor, Storm Ciarán, daro'r DU ddydd Mercher.

Mae nifer o rybuddion llifogydd, dolen allanol wedi bod mewn grym, yn bennaf yn y de orllewin, ers ddydd Sul wedi rhybudd Cyfoeth Naturiol Cymru y "gallai cyfuniad o lanw uchel a gwyntoedd cryfion o amgylch arfordir Cymru arwain at lifogydd arfordirol".

Tir eisoes yn wlyb

Fe fydd y rhybudd melyn diweddaraf am law trwm yn dod i rym am 18:00 ddydd Mercher ac yn para dros nos a thrwy ddydd Iau tan hanner nos.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i bob rhan o Gymru heblaw am chwe sir y gogledd.

Ynghyd â'r darogan arferol o'r posibilrwydd o lifogydd a thrafferthion teithio, mae yna rybudd bod trafferthion pellach yn bosib wrth i hyd at 25mm o law syrthio - 60mm ar dir uchel - gan fod y tir eisoes mor wlyb mewn mannau.

Ffynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r map yma'n dangos yr ardaloedd sy'n debygol o weld gwyntoedd cryf iawn yn ystod Storm Ciarán

Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt cryf o 21:00 nos Fercher a thrwy dydd Iau tan hanner nos.

Fe fydd y rhybudd yma'n berthnasol i'r un 16 sir â'r rhybudd glaw, ond fe fydd hefyd yn effeithio ar ardaloedd gorllewinol Gwynedd ac Ynys Môn.

Gyda hyrddiadau hyd at 60 mya yn bosib ar hyd yr arfordir, fe allai'r amodau achosi difrod i adeiladau a thoriadau i gyflenwadau trydan.

Pynciau cysylltiedig