Ysbyty Glan Clwyd: Caniatáu canolfan ganser gwerth £3m

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Maggie's gogledd CymruFfynhonnell y llun, Maggie's
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ganolfan yn cynnig cymorth ymarferol, seicolegol ac emosiynol i bobl sydd â chanser, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau, ar draws y gogledd

Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer canolfan gymorth canser newydd gwerth £3m yng ngogledd Cymru.

Bydd Canolfan Maggie's yn cael ei leoli ger Ysbyty Glan Clwyd ac yn darparu cymorth seicolegol ac emosiynol i gleifion ar draws y gogledd wedi iddyn nhw dderbyn diagnosis.

Y bwriad yw adeiladu'r ganolfan 3,035 metr sgwâr ym maes parcio'r ysbyty ym Modelwyddan.

Gyda chanolfannau tebyg eisoes yng Nghaerdydd ac Abertawe, bydd yn golygu fod darpariaeth o'r fath ar gael ymhob rhan o Gymru.

Yn dilyn penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i ganiatáu'r cais cynllunio, mae disgwyl iddi agor yn 2025.

'Hynod ddiolchgar'

Gyda 4,800 o bobl gogledd Cymru yn derbyn diagnosis canser bob blwyddyn, mae Sefydliad Steve Morgan wedi darparu'r £3m sydd ei angen i adeiladu'r ganolfan.

Bydd yn cynnig cymorth ymarferol, seicolegol ac emosiynol i bobl sydd â chanser, yn ogystal â'u teuluoedd a'u ffrindiau, ar draws y rhanbarth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhan fwyaf o gleifion canser y gogledd yn cael eu trin yng Nglan Clwyd

Yn ôl elusen Maggie's - fydd yn rhedeg y ganolfan - mae Glan Clwyd yn arbenigo mewn triniaeth oncoleg, haematoleg, a radiotherapi.

Tra bod rhai gwasanaethau oncoleg a haematoleg hefyd yn cael eu darparu yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam, mae mwy o gleifion canser y gogledd yn cael eu trin yng Nglan Clwyd.

Dywedodd y Fonesig Laura Lee, prif weithredwr Maggie's, eu bod "wedi gwirioni" fod caniatâd cynllunio wedi ei sicrhau.

"Heb gymorth hael Sefydliad Steve Morgan wrth gomisiynu, dylunio, adeiladu ac ariannu, ni fyddem wedi gallu dod â Maggie's i ogledd Cymru ac am hynny rwyf yn hynod ddiolchgar," meddai.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weithio'n agos gyda Sefydliad Steve Morgan unwaith eto, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, er mwyn sicrhau bod pobl gogledd Cymru yn cael y cymorth sydd eisoes wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl mewn rhannau eraill o Gymru ers 12 mlynedd."

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Maggie's Gogledd Cymru fydd y drydedd o'i math yng Nghymru, gyda Maggie's Abertawe ar agor ers 2011 a Maggie's Caerdydd ers 2019

Gydag Ysbyty Glan Clwyd eisoes yn gartref i Ganolfan Trin Canser Gogledd Cymru dywedodd Adele Gittoes, cyfarwyddwr gweithredol gweithrediadau dros dro Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Bydd gweithio ochr yn ochr â Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn ymestyn a gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd â chanser yn ogystal â'u teuluoedd.

"Rwyf eisiau diolch hefyd i Sefydliad Steve Morgan am ei chyllid hael i'r hyn yr wyf yn sicr y bydd yn gyfleuster gwych a gwerthfawr iawn."