Storm Ciarán: 'Mae potensial o lifogydd unrhyw le'
- Cyhoeddwyd
Mae Storm Ciarán wedi boddi maes carafanau Kiln Park yn Ninbych-y-pysgod
Mae yna rybudd bod llifogydd yn bosib unrhyw le ar draws Cymru ddydd Iau yn sgil oriau o gawodydd trwm wrth i Storm Ciarán daro'r wlad.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym ym mhob rhan o Gymru tan 23:59 nos Iau.
Daeth rhybudd melyn am wynt cryf yn y de i ben am 17:00.
O'r holl rybuddion llifogydd sydd mewn grym, dolen allanol, y mwyaf difrifol yw'r rhybudd coch ar lannau Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod, ble bu'n rhaid i gannoedd o bobl adael maes carafanau ddydd Mercher.

Roedd un dyn wedi gweld cyfle i ymarfer ei gaiacio yn y maes parcio yma yn Ninbych-y-pysgod
Yn ôl Ioan Williams, rheolwr gweithrediadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, mae "disgwyl i bethau ella gwaethygu yna yn ystod y dydd heddiw".
Pwysleisiodd wrth siarad ar raglen Dros Frecwast mai anaml y mae'n rhaid cyhoeddi rhybudd llifogydd coch, ble mae yna berygl i fywyd.
Dywedodd bod "rhyw 800 o bobl wedi symud mas" o barc gwyliau Kiln Park wrth i lefelau Afon Ritec godi ddydd Mercher.

Mae rhannau o safle Kiln Park yn Ninbych-y-pysgod dan ddŵr ers dydd Mercher

Tonnau'n taro arfordir Porthcawl ddydd Iau
Rhybuddiodd Mr Williams bod trafferthion yn bosib ymhob ran o Gymru gan fod lefelau afonydd eisoes yn uchel a chaeau'n wlyb.
"Ma' unrhyw law sy'n cwympo ar ben hwn - mae 'na botensial yn mynd i fod o lifogydd unrhyw le dros Gymru," dywedodd.
"Y glaw sy'n achosi gofid i ni - falle lan hefyd yn y canolbarth a gogledd Cymru ble oedd y llifogydd [wedi] Storm Babet."
Roedd y rhybudd gwynt yn weithredol yn siroedd Abertawe, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gâr, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf, ond hyd yn hyn ardaloedd yn Lloegr sydd wedi gweld yr hyrddiadau gwaethaf.

Ffordd ar gau ddydd Iau yn Ninbych-y-pysgod fore Iau
Mae Cyngor Sir Penfro yn agor lloches argyfwng ar gyfer unigolion digartref yn sgil y tywydd, ac mae Cyngor Ceredigion "yn dyblu" adnoddau ar gyfer ymateb i argyfyngau ar y ffyrdd.
Mae Cyngor Powys yn paratoi trwy ddarparu bagiau tywod, archwilio amddiffynfeydd llifogydd a chlirio cwteri a ffosydd.

Mae rhybudd am law mewn grym i Gymru gyfan, a rhybudd gwynt i rannau o'r de a'r gorllewin
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod dim gwasanaethau trên ar hyd rheilffyrdd Calon Cymru a Dyffryn Conwy, a bod coeden wedi syrthio ar y lein gan ddod â theithiau rhwng Merthyr Tudful ac Abercynon i stop.
Ond mae'r cwmni yn dweud eu bod yn disgwyl rhagor o law yn ystod y dydd, ac y gallai hynny arwain at fwy o broblemau yn ystod prynhawn Iau.
Y cyngor i deithwyr yw i wirio pa wasanaethau sydd ar gael o flaen llaw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2023