Caerdydd: Arestio dyn ar ôl i ddwy fenyw gael eu taro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae dwy fenyw yn yr ysbyty gydag anafiadau "difrifol" ar ôl cael eu taro gan gar yng Nghaerdydd yn oriau mân fore Iau.
Cafodd menyw 45 oed o Trowbridge a menyw 35 oed o Laneirwg eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru'r brifddinas ar ôl y digwyddiad ar Harris Avenue yn Nhredelerch am tua 01:50.
Roedd gyrrwr y car wedi gadael y digwyddiad heb ddod i stop, meddai'r heddlu.
Mae Heddlu'r De bellach wedi cyhoeddi eu bod wedi arestio dyn 34 oed o Dredelerch mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar ôl "ymholiadau helaeth".
Daeth yr heddlu o hyd iddo yn ardal Beddau, ac mae wedi'i arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, yn ogystal â throseddau traffig.
Er bod anafiadau'r menywod yn rhai "difrifol", dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n peryglu bywyd.