Cyhuddo dyn o geisio llofruddio dwy fenyw yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
TredelerchFfynhonnell y llun, Jonathan Myers
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad am tua 01:50 fore Iau

Mae dyn 34 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd fore Iau.

Cafodd dwy fenyw eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn digwyddiad ar Harris Avenue yn Nhredelerch am tua 01:50.

Roedd y gwasanaethau brys wedi eu galw yn dilyn adroddiadau bod dau o bobl wedi cael eu taro gan gerbyd.

Cafodd menyw 45 oed o Trowbridge a menyw 35 oed o Laneirwg eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru'r brifddinas.

Mae'r ddwy yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae Christian Matthews, sy'n 34 oed ac yn dod o Dredelerch, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Fy ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Caerdydd fore Gwener, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig