Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Y Gweilch 19-5 Sharks
- Cyhoeddwyd

Croesodd y Gweilch dair gwaith yn yr hanner cyntaf ar The Stoop
Llwyddodd y Gweilch i drechu'r Sharks yn eu cartref dros dro yn ne-orllewin Llundain nos Wener.
Yn y gêm URC gyntaf i'w chynnal ar faes arferol Harlequins - gyda Stadiwm Swansea.com ddim ar gael - sgoriodd Jack Walsh naw pwynt gyda cheisiau pellach gan Max Nagy a Keiran Williams.
Roedd y Sharks wedi agor y sgôrio diolch i gais Phepsi Butelezi.
Sgoriwyd yr holl bwyntiau yn yr hanner cyntaf wrth i amddiffyn y Gweilch weithio'n galed.
Gyda Jac Morgan a Justin Tipuric yn absennol oherwydd gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, yr wythwr Morgan Morris oedd yr arwr wrth i'r blaenasgellwr Harri Deaves hefyd berfformio'n dda ar y noson.
Hon oedd yr ail fuddugoliaeth yn olynol i dîm ifanc Toby Booth yn y gynghrair ar ôl trechu Zebre 34-31 y penwythnos diwethaf.