Angen diogelu olion hen ddiwydiant 'cyn ei bod yn rhy hwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i warchod hen weithfeydd mwyn canolbarth Cymru "cyn ei bod yn rhy hwyr", yn ôl nofelydd sydd wedi ymchwilio i hanes ei theulu ar gyfer y gyfres Fy Achau Cymraeg ar BBC Radio Cymru.
Roedd rhai o aelodau teulu Jane Blank yn gweithio ym mwynfeydd plwm a chopr Ceredigion yn ardal Nant y Moch a Chwm Einion, ger Machynlleth. Ond mae olion a hanes rhai o'r "gweithfeydd mwyn hynaf ym Mhrydain" mewn perygl o ddiflannu.
Mae wedi penderfynu cefnogi ymgyrch i greu amgueddfa yn y canolbarth i gofnodi hanes y diwydiant mwyngloddio fel sydd ar gael i'r diwydiant glo a haearn yn y de a llechi yn y gogledd.
Gweithfeydd mwyn hynaf Prydain
Fel rhan o'r rhaglen ar gyfer Radio Cymru bu Jane Blank ar safle hen waith plwm a chopr Ystrad Einion (neu Artist's Valley) ger Machynlleth lle roedd ei hen datcu yn gweithio cyn i'r pwll gau yn 1902.
Wrth gwrdd â'r hanesydd Ioan Lord dysgodd bod adfeilion yr hen weithfeydd mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.
"Cafodd y rhan fwyaf o archaeoleg canolbarth Cymru ei chwalu yn y 1950au a'r 1960au oherwydd y comisiwn coedwigaeth yn plannu coed. Byddai'n neis meddwl erbyn hyn ei fod e drosto ond yn anffodus dyw e ddim. Mae miloedd o aceri o dir agored hanesyddol yn cael ei blannu reit nawr gyda'r carbon offset," meddai Ioan Lord a welodd olion gweithfeydd pwysig yn cael eu dymchwel cyn i goed gael eu plannu ar lethrau Pumlumon ger Ponterwyd ddechrau 2023.
"Felly mae hyn yn broblem sy'n digwydd nawr a ni'n colli mwy a mwy o safleoedd," meddai. "Cafodd diwydiant mwyn canolbarth Cymru effaith allweddol ar ddatblygiad diwydiannol mwyngloddio Prydain. Hefyd mae gyda ni'r gweithfeydd mwyn hynaf ym Mhrydain i gyd yma yng nghanolbarth Cymru yng Nghwm Ystwyth - yn dyddio nôl i'r cyfnod mesolithig."
Angen diogelu'r hanes nawr
Mae Jane Blank, a gafodd ei magu yn Sheffield ac sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn magu ei theulu trwy'r iaith, wedi defnyddio straeon lleol yn ei nofelau, The Shadow of Nanteos a The Dipping Pool. Roedd y diwydiant mwyngloddio ac amaethyddiaeth yn bwysig i'w theulu ar ochr ei mam yn y gorffennol.
"Mae'n rhywbeth dw i'n teimlo'n gryf, gryf iawn amdano. Fel yng nghân Joni Mitchell, 'you don't know what you've got till it's gone'. Mae'n digwydd gyda phob peth o'r anifeiliaid prin i adfeilion lan yn y cymoedd a'r bryniau fan hyn," meddai.
Mae Ioan Lord yn cytuno: "Yn anffodus dyna beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol yn y cymoedd yn ne Cymru lle mae popeth bron wedi mynd. Ond unwaith mae un ar ôl mae pobl yn dechrau meddwl 'O, actually mae hwn yn bwysig - mae angen cadw fe'."
Yn ôl Ioan Lord, roedd adeiladau diwydiannol yn y gogledd yn cael eu chwalu nes sylweddoli eu bod yn rhan bwysig o hanes Cymru a'i phobl. Yn 2021 cafodd ardaloedd llechi'r gogledd orllewin eu dynodi yn Safle Treftadaeth Byd yn ychwanegol at ardal diwydiant glo a haearn Blaenafon.
Yn ôl Jane Blank, mae angen cydnabod cyfraniad diwydiant mwyngloddio'r canolbarth hefyd.
"Mae angen gwneud rhywbeth amdano. Dw i'n dipyn o berson bellicose, fel mae'r Sais yn dweud, a dwi'n fodlon ymuno gyda chi (Ioan) i gael ffordd well o ddelio â'r creisis amgylchedd a bioamrywiaeth heb ddistrywio hen ddiwylliant a'n diwydiant ni."
Ymgyrchu dros greu amgueddfa
Mae'r archeolegydd Ioan Lord yn tywys pobol o gwmpas mwynfeydd plwm a chopr Cwm Rheidol fel rhan o'i waith yn Antur Mwyn Gorllewin Cymru ac, fel cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Mwynfeydd Cymru a Mwynfeydd Cambria, mae wedi cyhoeddi sawl llyfr ar y pwnc.
Mae'n casglu deunyddiau o hen byllau'r 1850-60au drwy fynd dan ddaear lle bu ei gyndeidiau yn gweithio cynt.
"Mae'n deimlad arbennig i fynd yna nawr fel yr un cyntaf i fynd mewn ers i'r mwynwyr adael. Maen nhw fel time capsules, ar y lefel lle'r oedd neb wedi bod ers yr 1870au," meddai. "Roedd trams dal ar y cledrau, olion traed, bocsys bwyd, hetiau'r mwynwyr ac yn y blaen."
Ei brif obaith yw sefydlu amgueddfa mwyngloddio yn y canolbarth.
"Mae gyda ni Big Pit yn y de, Llanberis yn y gogledd, a dim yn y canolbarth. Dyna'r bwriad wrth gasglu arian ac arteffactau, yw sefydlu amgueddfa mwyngloddio - nid jyst Ceredigion ond canolbarth Cymru i gyd. Dyna'r prif gôl."
Gadael 'bythynnod gwag'
Roedd hen dad-cu Jane Blank yn gweithio ym mhwll Ystrad Einion, ger Machynlleth, cyn iddo gau yn 1902. Symudodd Evan Henry Jenkins i weithio dros dro ym mhyllau glo de Cymru gan anfon cyflog nôl at ei deulu.
"Mae'n lwcus i fi neu bydden i ddim yn siarad Cymraeg," meddai Jane Blank sydd wedi dilyn hanes yr iaith yn ei theulu, "lwcus iddo fynd lawr i weithio ac anfon nôl yr arian a dod yn ôl yn y diwedd."
A dyna oedd hanes sawl teulu wrth i'r diwydiant mwyn ddod i ben ddechrau'r ugeinfed ganrif, yn ôl Ioan Lord.
"Roedd dros fil o weithfeydd mwyn yng nghanolbarth Cymru. Y prif reswm dyw pobl ddim yn gwybod hyn yw oherwydd yn ne Cymru roedd yn ddiwydiant trefol gyda terases mawr. Yng nghanolbarth Cymru arhosodd yn ddiwydiant gwledig. Cafodd dim dinas fawr ei hadeiladu ar gyfer mwynwyr… dim trefi mawr ar gyfer gweithwyr."
Wrth i'r diwydiant ddod i ben ar ddechrau'r ugeinfed ganrif bu'n rhaid i bobl symud er mwyn dod o hyd i waith.
Meddai Ioan: "Naill ai symud i'r de neu cafodd lot o bobl swyddi gyda'r cyngor - ar y ffyrdd, yn y coedwigoedd. Fel arfer byddai'r penteulu'n symud ac os yn llwyddiannus byddai gweddill y teulu yn symud lawr.
"Ac roedd y bythynnod un ar ôl y llall yn mynd yn wag."
Gallwch wrando ar y cyfweliad rhwng Jane Blank ac Ioan Lord ar y rhaglen Fy Achau Cymraeg ar gael nawr ar BBC Sounds.
Hefyd o ddiddordeb: