Lluniau: Sioe Aeaf Môn
- Cyhoeddwyd
Ar benwythnos 4-5 Tachwedd roedd Sioe Aeaf Ynys Môn yn cael ei chynnal ar faes y sioe ger Gwalchmai.
Roedd y sioe yn dathlu 30 mlwyddiant eleni, ac Arwyn Roberts (Arwyn Herald) aeth yno efo'i gamera i ddal rhywfaint o'r hyn oedd i'w weld yno.

Rhianedd Davies o Bencader, Caerfyrddin, gyda'r tarw cynhenid ddaeth yn gyntaf yn y ffair, a Rhian Thomas gyda'r tarw ddaeth yn ail, gyda'r beirniad Sion Wyn Jones yn y canol

Bleddyn Rhys Jones o Gaerwen, Ynys Môn - pencampwr adran y plant, a'i addurniadau Nadolig

Lora Hughes gyda'i heffar ifanc a oedd yn fuddugol yn y ffair eleni

Lowri Sian Jones o Gaerwen, Ynys Môn, bugail ifanc y flwyddyn dan saith oed

Lois Jones o Landdona, Ynys Môn, yn ennill y gystadleuaeth arddangos defaid i'r ffermwyr ifanc

Greta Stuart o Rosgoch enillodd y wobr gyntaf efo'i harddangosfa flodau

Tirion Griffiths ar y dde o Dderwen Corwen efo Geraint Jones yn helpu

Megan Foulkes o Benmynydd, Môn - bencampwr sosij rôls yn adran y plant

Ceilyr Parry o Landdeusant

Carys Jones o Bentre Berw, Ynys Môn - pencampwr yn adran y gwinoedd

Cennydd Owen o Carmel, Ynys Môn, a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ffermwyr ifanc yn trin defaid gyda gwellau

Aeth y tlws 'Baby Beef' eleni i Wyn Williams, Llanfwrog

Steven O'Kane o'r Drenewydd ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth 'Baby Beef' eleni, gyda'r beirniad James May

Tony Ponsonby o Drefor, Ynys Môn, gyda'i fustach fbuddugol. Hefyd yn y llun mae Siwan a Ceris oedd yn ei helpu

Enid Williams o Langefni - pencampwr yn adran cynnyrch tŷ gyda'i mins peis

Robin Roberts, Bedol, Llanedwen, a Harri yn dal ei dlws gyda gwên fawr ar ei wyneb

Cernyw Heskett Evans o Bryndy, Llaneiliudan, Ruthin - pencampwr yr heffer a phrif bencampwr adran y gwartheg

Bydd Sioe Môn (yr un haf), yn cael ei chynnal ar 13-14 Awst flwyddyn nesaf