Carol Vorderman i adael BBC Cymru dros sylwadau ar X

  • Cyhoeddwyd
Carol VordermanFfynhonnell y llun, BBC/Sarah Louise Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carol Vorderman nad oedd hi'n "barod i golli fy llais"

Bydd Carol Vorderman yn gadael ei sioe wythnosol ar Radio Wales ar ôl torri canllawiau'r BBC drwy ymosod ar Lywodraeth y DU ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y BBC reolau cyfryngau cymdeithasol newydd ar gyfer staff.

Dywedodd Vorderman nad oedd hi'n "barod i golli fy llais ar gyfryngau cymdeithasol" a bod rheolwyr "wedi penderfynu bod yn rhaid i mi adael".

Bu Vorderman - sydd wedi cyflwyno'r sioe fore Sadwrn ar Radio Wales ers pedair blynedd - yn feirniadol o Lywodraeth y DU ar y wefan X, neu Twitter gynt.

Mae ganddi bron i 900,000 o ddilynwyr ar X, ac mae ei sylwadau yn cynnwys un ddydd Sadwrn pan bostiodd: "Mae angen datgymalu'r fersiwn hwn o'r Blaid Dorïaidd yn yr etholiad nesaf."

Ar yr un diwrnod, gwnaeth sylw ar neges gan yr Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman, gyda'r gweinidog wedi ysgrifennu ei bod hi a'r "mwyafrif sy'n parchu'r gyfraith" eisiau atal pobl sy'n "achosi niwsans a thrallod" rhag gosod pebyll mewn mannau cyhoeddus.

Mewn ymateb ysgrifennodd Vorderman, dolen allanol: "Yr hyn rydw i eisiau ei atal, a'r hyn y mae'r mwyafrif sy'n parchu'r gyfraith eisiau ei atal, yw eich llywodraeth ffiaidd yn glynu ar rym am ddiwrnod yn hirach."

'Fy magu i ymladd'

Daeth Vorderman, sy'n wreiddiol o Brestatyn, i amlygrwydd diolch i'r rhaglen deledu Countdown yn yr 1980au.

Mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni fel Better Homes a The Pride of Britain Awards.

Mewn datganiad ddydd Mercher fe ddywedodd y gyflwynwraig: "Er bod fy sioe yn un ysgafn heb unrhyw gynnwys gwleidyddol, esboniwyd i mi gan ei bod yn sioe wythnosol yn fy enw i, y byddai'r canllawiau newydd yn berthnasol i unrhyw gynnwys rwy'n ei bostio trwy gydol y flwyddyn.

"Ers i'r newidiadau hynny gael eu gwneud i'm cytundeb radio, rwyf wedi darganfod yn y pen draw nad wyf yn barod i golli fy llais ar y cyfryngau cymdeithasol, newid pwy ydw i, na cholli'r gallu i fynegi fy nghredoau cryf am y cythrwfl gwleidyddol y mae'r wlad hon yn ffeindio'i hun ynddo.

"Fy mhenderfyniad oedd parhau i feirniadu llywodraeth bresennol y DU am yr hyn y mae wedi'i wneud i'r wlad yr wyf yn ei charu - a dydw i ddim yn barod i roi'r gorau iddi. Cefais fy magu i ymladd dros yr hyn rwy'n credu ynddo, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

"O'r herwydd rwyf bellach wedi torri'r canllawiau newydd ac mae rheolwyr BBC Cymru wedi penderfynu bod yn rhaid i mi adael. Rhaid i bob un ohonom wneud ein penderfyniadau."

Disgrifiad o’r llun,

Carol Vorderman: "Rwyf wedi darganfod yn y pen draw nad wyf yn barod i golli fy llais ar y cyfryngau cymdeithasol"

Fe ychwanegodd ei bod yn drist i adael ei "ffrindiau gwych" yn Radio Wales. "Dymunaf iddyn nhw, a'n holl wrandawyr, yr holl gariad yn y byd.

"Ond am y tro, mae pennod ddiddorol arall yn dechrau," meddai.

'Diolch am ei chyfraniad'

Dywedodd llefarydd ar ran yr orsaf: "Mae Carol wedi bod yn gyflwynydd ar BBC Radio Wales ers 2018. Hoffem ddiolch iddi am ei gwaith a'i chyfraniad i'r orsaf dros y bum mlynedd diwethaf."

Gwrthododd y BBC wneud sylw pellach, gan dynnu sylw at ddatganiad Carol Vorderman.

Cafodd rheolau cyfryngau cymdeithasol y gorfforaeth eu hailwampio yn dilyn protest ar ôl i Gary Lineker bostio sylw yn cymharu polisi lloches y DU gyda'r Almaen yn y 1930au.

Bellach mae rheolau didueddrwydd llymach ar gyfer y llu o "raglenni blaenllaw" dethol fel Match of the Day, Strictly Come Dancing a The Apprentice.

Mae hefyd yn ofynnol i holl staff y BBC a gweithwyr llawrydd "beidio â dwyn anfri ar y BBC", yn ôl y canllawiau newydd.

Nid oedd rhaglen Vorderman ar Radio Wales ar y rhestr "flaenllaw", a deellir bod y broblem gyda'i sylwadau yn ymwneud â gwareiddiad, yn hytrach na didueddrwydd.