'Gwefr' canfod mwy o lawysgrifau prin Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae ysgolhaig yn Aberystwyth wedi dod o hyd i dros 30 o lawysgrifau Cymreig - llawysgrifau nad oedd cyn hyn yn hysbys i'r byd academaidd Cymreig.
Mae'r rhain wedi dod i'r fei flwyddyn ers cyhoeddi y gwaith manylaf erioed ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ac "yn brofiad gwefreiddiol", medd Dr Gruffudd Antur a fu'n cynorthwyo Dr Daniel Huws i gwblhau cyfrolau'r Repertory.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Dr Antur bod rhai o'r llawysgrifau yng Nghymru ond eraill yn Rhydychen, y Llyfrgell Brydeinig, Henffordd ac America a "bod y we ac ambell drywydd arall" wedi bod o gymorth.
Ymhlith y darganfyddiadau newydd mae sawl rholyn achyddol, un ohonynt yn dangos ach Syr Siôn Pyrs - awdur y llyfr Cymraeg printiedig cyntaf - copi o gronicl yn llaw Robert Vaughan o'r Hengwrt, dernyn yn llaw David Powel, awdur y gyfrol brintiedig gyntaf ar hanes Cymru, a chopi o gywydd serch cynnar nad yw i'w gael yn unman arall.
Mae mwyafrif llethol o'r llawysgrifau Cymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac mae'r trydydd casgliad mwyaf ym meddiant llyfrgell Caerdydd, ond mae nifer yn Lloegr a thu hwnt.
'Ffrainc, Swistir ac America'
"Mae nifer fawr o lawysgrifau Cymreig yn y Llyfrgell Brydeinig - casgliad Morysiaid Môn, nifer yng Ngholeg yr Iesu yn Rhydychen, rhai yng Nghaergrawnt, mae llawysgrif hynafol Sant Chad yng Nghaerlwytgoed a llawysgrifau eraill yn yr Alban a Dulyn," medd Dr Daniel Huws, cyn-geidwad llawysgrifau a chofysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol.
"Mae yna eraill yn Ffrainc, Swistir ac America - y cyfan yn ddifyr tu hwnt.
"Ym Manceinion mae llawysgrif gan Gutun Owain - llyfr achau pwysig iawn yn y Gymraeg ac yn Glasgow mae yna lawysgrif yn llaw Thomas Price, Llanfyllin.
"Ymhlith y llawysgrifau pwysicaf na sydd yng Nghymru mae Llyfr Coch Hergest a Llyfr Ancr Llanddewi Brefi - y ddau ym meddiant Coleg yr Iesu yn Rhydychen."
Yn ddiweddar mae cryn alw wedi bod am ddychwelyd trysorau i'w cartref gwreiddiol - yn eu plith Mantell Aur Yr Wyddgrug a Llythyr Pennal - ond wedi awgrym y dylai llawysgrifau prin ddychwelyd i Gymru, dywed y ddau ysgolhaig y dylai'r Llyfr Coch a Llyfr yr Ancr aros yn Rhydychen.
"Byddai Coleg yr Iesu yn ddig ofnadwy - mae e fel llygadu gwraig rhywun arall," meddai Dr Daniel Huws.
"Bydden i'n ddig wrth rywun fyddai'n dechrau ymgyrch i gael y llyfrau nôl yng Nghymru. Dwi ddim yn meddwl y byddai hynna'n gweddu o gwbl.
"Dwi'n gweld gwahaniaeth mawr rhwng y Llyfr Coch yn Rhydychen a holl dlysoedd yr Asante ac ati sydd erbyn hyn yn mynd yn ôl.
"Roedd y llawysgrifau hyn wedi disgyn drwy deuluoedd Cymreig a rheiny wedyn wedi rhoi nhw i'r coleg Cymreig yn Rhydychen a doedd yna ddim llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru y gellid fod wedi rhoi llawysgrifau iddyn nhw.
"Mae hynny'n wir hefyd am lawysgrifau y Morysiaid sydd yn y Llyfrgell Brydeinig - doedd yna ddim llyfrgell gyhoeddus yng Nghymru ar y pryd."
Yn 2014 fe ddaeth y Llyfr Coch am gyfnod i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan rannu câs gwydr gyda thrysorau eraill y genedl, sef Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, a Llyfr Aneirin.
Cyn hyn dim ond unwaith yn unig y bu'r Llyfr Coch yng Nghymru ers ei alltudiaeth i Rydychen ym 1701, a does dim disgwyl y bydd yn croesi Clawdd Offa eto am rai blynyddoedd.
Mae Llyfr Coch Hergest yn cynnwys Pedair Cainc y Mabinogi, Breuddwyd Rhonabwy, traethawd Meddygon Myddfai, a cherddi chwedl Llywarch Hen.
Fe gafodd y gyfrol ei llunio ar gyfer Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan, ger Abertawe rhwng tua 1382 a 1410.
"Dwi innau'n credu hefyd bod yn rhaid i'r Llyfr Coch a Llyfr yr Ancr aros yn Rhydychen - maen nhw yn cael y gofal gorau posib yn Llyfrgell Bodley," medd Gruffudd Antur
"Mae'r ffaith eu bod wedi cyrraedd man diogel yn Rhydychen mor gynnar yn rhan bwysig o'u hanes.
"Does yna ddim rheswm iddyn nhw ddod nôl i Gymru."
Esgeuluso llawysgrifau Caerdydd 'yn dorcalon'
"Yr hyn sy'n bwysig yw bod pob llawysgrif yn cael ei chatalogio a'i rhifo'n ofalus a bod modd i'r cyhoedd ei gweld," medd Dr Daniel Huws.
"Oni bai bod llawysgrifau yn cael eu rhifo a'u disgrifio dydyn nhw ddim gwerth i neb - ac fe allan nhw gael eu dwyn ac mae hynny wedi digwydd yn anffodus."
Ychwanegodd mai'r hyn sy'n dorcalon iddo fe'n bersonol yw bod yna ddim cofnod priodol o gynnwys casgliad llawysgrifau Llyfrgell Ganolog Caerdydd.
"Roedd yna gasgliad gwych yn y Llyfrgell Rydd yng Nghaerdydd - wedi'r cyfan dyma oedd y casgliad cenedlaethol cyntaf cyn dyddiau'r Llyfrgell Genedlaethol ac mae'n gasgliad niferus a phwysig," meddai.
"Fe wnaeth y llyfrgellydd John Ballinger brynu llawysgrifau o gasgliad Syr Thomas Phillips - hynny cyn i Mr Ballinger ddod i'r Llyfrgell Genedlaethol fel y llyfrgellydd cyntaf.
"Catalogiwyd rhai gan J Gwenogvryn Evans ond ers y 1950au does yna ddim curadur proffesiynol wedi bod yno.
"Yn anffodus mae rhai o'r casgliadau gwreiddiol wedi'u chwalu - casgliad Cadrawd, er enghraifft. Mae rhan o'r casgliad yn yr archifdy ac wedi i'r llyfrgell symud mae nifer o'r llawysgrifau mewn warws.
"Mae talpiau mawr o'r llawysgrifau ar goll. Dwi'n ofni bod rhai wedi cael eu dwyn ac o bosib rhai wedi'u taflu.
"Mae'n sefyllfa gwbl dorcalonnus. Maen nhw wedi cael eu hesgeuluso."
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael cais i ymateb.
Yn y cyfamser, yn Aberystwyth mae Gruffudd Antur yn gobeithio y daw o hyd i fwy o lawysgrifau.
"Eisoes bu'n rhaid cynnwys Addenda i'r Repertory wedi i rai llawysgrifau newydd ddod i'r fei yn Aberystwyth, Leiden, Llundain a Choleg yr Iesu - ond ers hynny rwy' wedi canfod mwy o lawysgrifau cyn 1800.
"Fe wyddon ni am sawl llawysgrif yn America nad oedd modd eu cynnwys yn y Repertory gan nad oedd modd eu hastudio yn ystod cyfnod y pandemig, ac yn eu plith un sy'n cynnwys cyfieithiadau cynnar o weithiau Morgan Llwyd.
"Mae ambell gyfrol hefyd yn dal i fod mewn casgliadau preifat.
"Mae'r cyfan yn gwbl wefreiddiol a phwy a ŵyr be ddof o hyd iddo nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2019