Cyhoeddi campwaith ar lawysgrifau ar drothwy pen-blwydd 90

  • Cyhoeddwyd
repertory

Nid pawb sy'n dechrau ar un o brosiectau mwyaf ei oes wedi iddo ymddeol ond dyna yw stori Daniel Huws, cyn-Geidwad Llawysgrifau a Chofysgrifau'r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae e newydd gwblhau astudiaeth fanwl o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig a hynny cyn ei ben-blwydd yn 90 oed yr wythnos nesaf.

Ddydd Llun bydd cyfrolau A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800-c.1800 yn cael eu gweld yn swyddogol am y tro cyntaf a dyma, medd ysgolheigion, "yr astudiaeth fwyaf trylwyr ac ysgolheigaidd o lawysgrifau Cymraeg a Chymreig erioed".

Mae'r 'Repertory' yn dair cyfrol ac yn ogystal â rhoi manylion am y llawysgrifau mae'r gwaith yn rhoi gwybodaeth am yr ysgrifwyr ac yn cyflwyno delweddau o'r llawysgrifau.

Mae'n brosiect ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Ffynhonnell y llun, @Ganolfan
Disgrifiad o’r llun,

Dr Daniel Huws yn cyhoeddi campwaith ar lawysgrifau Cymraeg a Chymreig ar drothwy ei ben-blwydd yn 90

Y gobaith yw y bydd y gwaith yn chwyldroi'r astudiaeth o hanes ein diwylliant a'n llên wrth i lawysgrifau o'r Oesoedd Canol hyd at y Chwyldro Diwydiannol gael sylw.

Mae'r magnum opus, meddir, yn ein cyflwyno i "gymeriadau enwog yn hanes y genedl, i eraill a lwyr anghofiwyd ac i ambell gymeriad brith sy'n haeddu rhagor o sylw".

'Dwi bellach yn ddall'

Mae Daniel Huws a'i brentis Gruffudd Antur wedi cynnwys manylion am lawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Bangor, y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Bodley, Rhydychen, prifysgolion Harvard a Yale, coleg Stonyhurst, ac archifdy Sir Northampton.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd Daniel Huws ei fod yn "hynod o falch o weld y gwaith yn cael ei gyhoeddi".

"Mae'n rhaid i mi gyfaddef ei fod wedi bod yn gryn dasg gan nad oedd neb wedi gwneud y gwaith maes ond mae'n cynnwys manylion rhwng tair a phedair mil o lawysgrifau.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol

"Ydw dwi'n gryn arbenigwr ar bob math o lawysgrifen bellach - yn y ddeuddegfed ganrif roedd y lawysgrifen orau heb os gyda'r llythrennu yn hynod o glir.

"Mae llawysgrif Llyfr Du Caerfyrddin yn hynod o ddealladwy ond mae bron yn amhosib darllen llawysgrif gwaith Dafydd ap Gwilym - mae'n ysgrifen rhedegog iawn.

"Yn fy oes dwi wedi darllen miloedd ar filoedd o lawysgrifau ac wedi dod i adnabod llawysgrifen copïwyr ac ati - ond bellach dwi ddim yn gallu darllen yr un lawysgrif gan bo fi'n ddall i bob pwrpas.

"Collais olwg yn un llygad yn 2007 ac ychydig iawn rwy'n ei weld gyda'r llygad arall ers 2015.

"Mae'r gwaith o ddarllen llawysgrifau, heb os, wedi cyfrannu at hynny wrth i fi mewn cyfnod cynharach wneud defnydd helaeth o olau ultra violet i ddarllen llawysgrifen anweledig ac fe gafodd ei brofi yn ddiweddarach bod golau o'r fath yn niweidiol iawn i'r llygaid.

"Ond dwi'n falch bod y gwaith yma ar y llawysgrifau bellach ar gael i eraill - diolch i nifer o gymwynaswyr ar hyd y daith."

'Y gwaith pwysicaf un'

Dywedodd Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: "Heb os, dyma un o'r gweithiau ymchwil, ysgolheigaidd pwysicaf i'w gyhoeddi gennym, os nad y pwysicaf un.

"Mawr yw ein diolch i Daniel am ei waith cwbl ragorol a'r fraint yr wyf fi wedi'i gael o ddod i adnabod yr ysgolhaig annwyl ac unigryw hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf yma.

"Ein dymuniadau gorau iddo ar ei ben-blwydd arbennig a mawr yw ein diolch iddo am oes o wasanaeth i Gymru, ei diwylliant a'i dysg."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r math o wybodaeth sydd yn y cyfrolau

"Dyma gampwaith yn wir," medd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

"Dathlwn ysgolheictod Dr Daniel Huws ac ymhyfrydwn yn y cydweithio agos a fu rhyngom wrth gyflwyno'r gwaith hwn i'r byd.

"Hoffwn ddiolch i bob un a fu ynghlwm â chyhoeddi'r cyfrolau hynod hyn ac edrychwn ymlaen - nid yn unig at y lansio a'r Gynhadledd eleni - ond at y gwaith a'r ymchwil newydd a ddaw yn sgil y Repertory am ddegawdau i ddod."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llawysgrifau fel yr un yma yn cael eu harddangos yn y gwaith newydd

I ddathlu cyhoeddi'r cyfrolau ac i nodi pen-blwydd Dr Huws bydd cynhadledd ryngwladol ar amrywiol agweddau ar lawysgrifau yn cael ei chynnal ddiwedd y mis gydag ysgolheigion nodedig Cymreig yn cyflwyno dros 30 o bapurau ar agweddau ar lawysgrifau o darddiad Cymreig - gan gynnwys eu gwneuthuriad, paleograffeg, ysgrifwyr, noddwyr, casglwyr, astudiaethau testunol a'r modd y cânt eu cyflwyno'n ddigidol.