Hanner canrif o ddiogelu trysorau'r Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Mae Elgar Pugh newydd ymddeol o'i swydd yn trin a thrwsio trysorau mwyaf gwerthfawr y Llyfrgell GenedlaetholFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elgar Pugh newydd ymddeol o'i swydd yn trin a thrwsio trysorau mwyaf gwerthfawr y Llyfrgell Genedlaethol

Wedi 52 mlynedd yn yr un swydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, dywed Elgar Pugh fod y gwaith o drwsio ac atal difrod i'r casgliadau wedi bod yn "bleser pur".

"Fe ddechreuais i ar y gwaith yn yr adran gadwraeth yn grwtyn ifanc ym 1971 - ac ers y diwrnod cyntaf mae'r gwaith wedi bod yn amrywiol iawn," meddai'r gŵr o Lanfarian wrth Cymru Fyw.

"Er yn gyfrifoldeb mawr, mae hi wedi bod yn fraint cael trin rhai o drysorau mwyaf gwerthfawr y Llyfrgell.

"Rwy' i ac aelodau eraill o'r tîm wedi adfer lot fawr o wrthrychau bregus - o hen lawysgrifau i lyfrau printiedig, papur, memrwn, mapiau - mapiau degwm, negyddion, seliau cwyr a llawer mwy.

"Rwy' hefyd wedi arbenigo mewn cynhyrchu ffacsimilïau - sef copïau o gyfrolau gwreiddiol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer arddangos neu ffilmio."

Yn eu plith roedd ffacsimili arbennig o Feibl Cymraeg William Morgan o 1588 - gan greu copi i'r Frenhines Elizabeth yn 1988.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elgar Pugh yn gyfrifol am ffacsimili arbennig o Feibl William Morgan ar gyfer y Frenhines

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Elgar Pugh wnaeth ffurfio'r ffacsimili o Lyfr Aneirin a welir yma

"Yn rhy aml mae rhywun yn meddwl mai trwsio meingefn llyfr yw gwaith yr uned gadwraethol yn y Llyfrgell ond mae'n llawer mwy na hynny," ychwanegodd Mr Pugh, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 70.

"Ry'n ni yn yr oes ddigidol ar hyn o bryd ond be' ma' rhywun ddim yn ei sylweddoli yw bod yn rhaid i lyfr, map neu lawysgrif fod mewn cyflwr da cyn bod e'n gallu cael ei ddigido.

"Mae'n rhaid hefyd adfer llyfr i'r hyn oedd e - os oedd e wedi cael ei rwymo yn yr oesoedd canol rhaid ei rwymo yn y dull hwnnw ac fe ges i hyfforddiant i wneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid diogelu nodweddion hanesyddol wrth drin casgliadau

Wrth drin gwrthrych mae'n rhaid dilyn canllawiau moesegol rhyngwladol, a pheidio ymyrryd yn ormodol â'r gwreiddiol er mwyn diogelu nodweddion hanesyddol.

Mae yna bwyslais hefyd ar ddefnyddio deunyddiau na fydd yn adweithio'n wael â'r gwreiddiol.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tudalennau cyn ac wedi iddyn nhw gael eu trwsio gan Elgar Pugh

Cafodd yr Adran Gadwraeth ei ffurfio yn 1912 - bum mlynedd wedi agoriad y Llyfrgell Genedlaethol.

Bob dydd mae'r swyddogion yn dod wyneb yn wyneb â rhai o'r creiriau diwylliannol pwysicaf, ac weithiau mae gwaith i'w wneud ar ddogfennau hynod o werthfawr.

Trin Llawysgrif Boston yn 'gyfrifoldeb mawr'

Wedi i'r Llyfrgell brynu Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn Sotheby's, Llundain yn 2012 roedd yna lawer o waith trwsio ar y ddogfen sy'n dyddio o ail hanner y 14eg ganrif, ac roedd penderfyniadau anodd am y camau nesaf.

Bu'r llawysgrif ym meddiant Cymdeithas Hanes Massachusetts am dros 150 mlynedd, ac oherwydd natur anaddas y rhwymiad Americanaidd o tua 1840, y penderfyniad oedd dadrwymo'r cyfan.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Arddangos Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda a brynwyd yn Sotheby's, Llundain yn 2012

"Gallai'r rhwymiad fel ag yr o'dd e fod wedi achosi mwy o ddifrod i'r memrwn.

"Felly bu'n rhaid i'r Adran Gadwraeth drwsio pob tudalen - 71 ohonynt - gyda memrwn newydd a chroen stumog ychen, atgyfnerthu llawer o'r priflythrennau ac yna fe gafodd y lawysgrif ei digido cyn iddi gael ei hailrwymo mewn cloriau derw - roedd e'n gyfrifoldeb mawr," medd Mr Pugh.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Archifydd LLGC

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Archifydd LLGC

Swyddogaeth bwysig arall yr Adran Gadwraeth yw glanhau eitemau llygredig a ddaw i berchnogaeth y Llyfrgell.

Bellach mae yna ardal gwarantîn arbennig wedi'i sefydlu i ddelio ag eitemau sy'n llawn llwydni, pryfed a baw.

"Yn aml mae pethe wedi cael eu storio mewn amodau na sy'n ffafriol ar gyfer storio papur - rhai wedi eu cadw mewn hen gapeli llaith, seler, garej neu atig.

"Rhan o fy ngwaith oedd delio â derbynion o'r fath er mwyn diogelu iechyd staff a darllenwyr ond hefyd gwarchod gweddill casgliadau'r Llyfrgell.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwaith yn yr Adran Gadwraeth yn amrywiol, medd Elgar Pugh

"Mae'r staff wedi glanhau miloedd ar filoedd o eitemau - yn eu plith roliau ple y Sesiwn Fawr.

"Roedd yn rhaid hefyd monitro ystafelloedd y Llyfrgell yn rheolaidd - g'neud siwr bod dim dŵr yn gollwng yn unlle a chadw golwg ar y tymheredd a lefel y golau.

"Mae tymheredd anghywir a lleithder yn gallu cael lot o effaith ar y casgliadau. Os yw'r amodau'n rhy sych gall y deunyddiau fynd yn frau ond gall lot o leithder achosi llwydni," ychwanegodd Mr Pugh.

Achub eitemau o'r tân

Bydd 26 Ebrill 2013 yn aros yng nghof staff y Llyfrgell am gyfnod hir wedi i dân mawr ddifrodi rhan o'r adeilad.

Disgrifiad o’r llun,

Effaith y tân ar ran o'r Llyfrgell Genedlaethol yn 2013

Roedd y difrod pennaf i uned dderbyniadau y Llyfrgell - nid yr adran sy'n derbyn llyfrau newydd ond yr adran sy'n delio ag eitemau hŷn sydd newydd gael eu rhoi neu eu prynu.

Yn ffodus roedd nifer o'r eitemau wedi'u rhoi mewn bocsys priodol ond roedd yr holl ddŵr a ddefnyddiwyd i ddiffodd y tân yn dipyn o broblem, meddai Mr Pugh.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen trwsio nifer o eitemau wedi'r tân yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 2013

"Wedi ni gael mynediad i lle ro'dd y tân roedd yn rhaid i ni sychu miloedd o eitemau cyn i'r cynnwys lwydo, a rhewi rhai pethau gan nad oedd modd trin pob dim ar unwaith, ac fe fuodd rhai pethau mewn rhewgell am ddwy flynedd.

"Yn digwydd bod ar ddesg un o staff yr uned dderbyn ro'dd llyfr prin a oedd wedi cael ei argraffu yn 1595 sef 'Six bookes of politickes or civil doctrine' gan Justus Lipsius.

"Ro'dd pawb yn credu ei fod wedi'i losgi'n llwyr - ond ryw chwe mis wedi ei ddadmer dyma weld bod y tudalennau mewn cyflwr gweddol er bod golwg ofnadwy ar y cloriau.

"Yn rhyfeddol wedi i'r tîm sychu, olchi, glanhau a thrwsio'r tudalennau drwy ddulliau arbenigol roedd modd darllen 95% o'r gyfrol ac mae bellach wedi cael ei digido."

Carl Hanson, gŵr a hanai o Norwy oedd pennaeth cyntaf yr Adran Gadwraeth, a bu yn ei waith o 1912 hyd at ei ymddeoliad yn 87 oed yn 1959.

Bu ei fab Victor hefyd yn gweithio yn yr adran am 42 mlynedd gan gydweithio am gyfnod â Mr Pugh.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r hanner canrif a mwy yn y Llyfrgell Genedlaethol yn gyfnod arbennig iawn, medd Elgar Pugh

"Dwi ddim yn synnu bod gweithwyr yn aros yno gyhyd," ychwanegodd Mr Pugh.

"Dwi ddim wedi gweld eisiau'r gwaith eto - mae'n teimlo fel gwyliau ar hyn o bryd.

"Ond cyn hir fe fyddai'n rhoi'n holl sylw i drwsio tŷ newydd y mab - mae e hefyd yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol a rwy' wedi addo mynd gyda fy ngwraig i Goa.

"Do bu'r hanner canrif diwethaf a mwy yn gyfnod arbennig iawn."