Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 12-18 Bulls
- Cyhoeddwyd
Cafodd Caerdydd eu trechu gan y Bulls mewn gêm agos ym Mharc yr Arfau nos Wener.
Fe ddechreuodd y tîm o Dde Affrica yn dda, gan sgorio dau gais sydyn trwy Embrose Papier a Sebastian De Klerk.
Ond llwyddodd Caerdydd i daro 'nol gyda chais gan Mason Grady i'w gwneud hi'n 5-12 i'r ymwelwyr ar yr egwyl.
Wedi i'r canolwr David Kriel weld cerdyn melyn i'r Bulls fe wnaeth Caerdydd gymryd mantais yn syth wrth i Rey Lee-Lo groesi am gais.
Diolch i ddwy gôl gosb gan Chris Smith yn yr ail hanner roedd hi'n 12-18 i'r ymwelwyr yn mynd i'r munudau olaf.
Er i Gaerdydd bwyso, roedd y Bulls wedi gwneud digon, o drwch blewyn, i sicrhau'r fuddugoliaeth.