Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 23-31 Glasgow
- Cyhoeddwyd
![Johnny Matthews](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D16A/production/_131701635_cdf_111123_be_ospreys_v_glasgow25.jpg)
Johnny Matthews yn sgorio un o'i ddau gais o'r noson i Glasgow
Fe gollodd y Gweilch gêm gartref yn erbyn Glasgow Warriors am y tro cyntaf mewn pum mlynedd wrth i'r tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth Rygbi Unedig gael eu gorau arnyn nhw.
Roedd y Gweilch ar y blaen 10-7 ar ddiwedd yr hanner cyntaf, diolch i gais Kieran Williams a chicio Jack Walsh.
Fe darodd Glasgow yn ôl yn gryf - roedd yna ddau gais gan Johnny Matthews ac un gan Vallanu, cyn i'r Gweilch adennill y fantais pan diriodd Reuben Morgan-Williams.
Ond yr ymwelwyr gafodd y gair olaf pan sgoriodd Allan Dell eu pedwerydd cais o'r noson reit ar y diwedd i sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws.