Storm Debi: Gwyntoedd 77mya yn Aberdaron ar ôl rhybudd tywydd
- Cyhoeddwyd
Mae hyrddiau gwynt o hyd at 77mya wedi taro rhannau o arfordir Cymru ddydd Llun yn sgil rhybudd tywydd ar draws y gogledd, canolbarth a'r gorllewin.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod ansicrwydd o hyd ynghylch lle y gallai Storm Debi achosi problemau wrth iddi symud i'r gorllewin o arfordir Môr Iwerddon.
Fore Llun roedd 24 o rybuddion llifogydd mewn grym, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n golygu bod llifogydd yn bosib.
Fe allai hyrddiau gwynt mewndirol arwain at anafiadau a pherygl i fywyd, rhybuddiodd.
Cafodd y cyflymder gwynt uchaf o 77mya (124km/awr) ei gofnodi yn Aberdaron ym Mhen Llŷn, Gwynedd.
Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd i rym am 04:00 a bydd yn parhau tan 18:00.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i ardaloedd yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Penfro, Powys, Wrecsam ac Ynys Môn.
Fe allai'r amodau gwaethaf achosi anafiadau a risg i fywydau yn sgil difrod i adeiladau, malurion yn cael eu chwythu, a thonnau uchel.
Mae trafferthion i deithwyr hefyd yn bosib yn ogystal â thoriadau i gyflenwadau trydan.