Dros 1,000 o frwshys dannedd yn cael eu rhoi i elusen

  • Cyhoeddwyd
brwshys danneddFfynhonnell y llun, Gŵyl Cerdd Dant 2023

Cafodd dros 1,000 o frwshys dannedd eu rhoi gan gystadleuwyr a chefnogwyr Gŵyl Cerdd Dant 2023 yn dilyn apêl gan y pwyllgor gwaith.

Bydd y nwyddau glendid a gafodd eu casglu yn cael eu rhoi i Ganolfan Huggard, sy'n agos i Goleg Caerdydd a'r Fro lle cafodd yr Ŵyl ei chynnal dros y penwythnos.

Dywedodd Eirian Evans, aelod o'r pwyllgor gwaith, fod y cais am frwshys dannedd wedi cael ymateb "syfrdanol".

Mae Canolfan Huggard wedi bod yn cefnogi unigolion sy'n byw ar y strydoedd neu yn ddigartref yng Nghaerdydd.

Dywedodd Prif Weithredwr Canolfan Huggard, Richard Edwards ei fod yn "ddiolchgar i drefnwyr a chefnogwyr" yr Ŵyl.

Ychwanegodd ei bod yn "bwysig ein bod ni yn Huggard yn darparu nwyddau fel brwshys dannedd i bobl sy'n defnyddio ein cawodydd".

Daeth dros 1,500 o gystadleuwyr a chefnogwyr i Goleg Caerdydd a'r Fro ar 11 Tachwedd ar gyfer yr Ŵyl.

Pynciau cysylltiedig