Prosiect Plant Mewn Angen 'wnaeth achub fy mywyd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dafydd Millns: Prosiect Plant Mewn Angen wedi "safio fi"

Roedd ei arddegau cynnar yn gyfnod tywyll iawn i Dafydd Millns o Rydaman - roedd e'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn ei wely, yn methu mynd i'r ysgol, ac roedd wedi meddwl am ladd ei hun.

Ond cafodd ei gyfeirio at therapi syrffio Tonic ac mae hynny, meddai, "wedi achub fy mywyd".

Mae'r prosiect yng ngorllewin Cymru yn un o'r rhai sy'n derbyn arian Plant Mewn Angen y BBC.

Ar drothwy diwrnod Plant Mewn Angen ddydd Gwener, dywed y trefnwyr yng Nghymru bod y gefnogaeth "mor gryf ag erioed a bod ysgolion ar draws Cymru yn hynod gefnogol".

Ar hyn o bryd mae Plant Mewn Angen yn ariannu 102 prosiect yng Nghymru, gan roi cefnogaeth y llynedd i dros 20,000 o blant ar gost o £6.1m.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r therapi, medd rhai o'r bobl sydd wedi bod ar y cwrs, yn gwneud i'r corff a'r meddwl ymlacio

Nod prosiect syrffio Tonic yw gwella lles ac iechyd meddwl unigolion - yn enwedig pobl ifanc - ac mae'n cael ei weithredu ar draethau Niwgwl, Poppit a'r Borth ger Aberystwyth.

Mae'r gair Tonic yn deillio o'r gair ton, a'r syniad yw bod tonnau'r môr a'r traeth yn gwella unigolion ac yn gwneud i'r corff a'r meddwl ymlacio yn llwyr.

'Annibyniaeth i bobl ifanc bregus'

Wrth siarad ar raglen Aled Hughes dywedodd Dafydd Millns, sydd bellach yn gwirfoddoli fel therapydd i Tonic, bod y cynllun wedi'i alluogi i ddychwelyd i'r ysgol ac i fynd i brifysgol - rhywbeth nad oedd ef na'r teulu yn credu fyddai'n digwydd fyth.

"Pan o'n i ym mlwyddyn 8 neu 9, do'n i'm yn gallu mynd i'r ysgol o gwbl - ro'n i'n bedridden 24/7 ac o'n i am ladd fy hun," meddai.

"I fi, therapi syrffio oedd y catalydd. 'Nath e achub bywyd fi a gwella fy iechyd meddwl.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae therapi syrffio yn "rhywbeth unigryw iawn" ac yn rhoi golwg wahanol ar y byd, medd Dafydd Millns

"Mae'n anodd rhoi geiriau [i be sy'n digwydd] heblaw bo' chi wedi bod drwy'r broses yna. Mae'n anodd iawn deall y pŵer i fod yn onest.

"Mae Plant Mewn Angen yn cefnogi'r cynllun ac mae hynny'n gwneud byd o wahaniaeth.

"Heb os, mae'r arian yn safio pobl ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc ffeindio mas pwy ydyn nhw.

"Dros y pedair mlynedd fi wedi bod gyda nhw mae'r arian wedi helpu'r cynllun yn fawr - ac wedi rhoi teimlad o gymuned, annibyniaeth a hunan gred i bobl ifanc bregus."

Fel arfer mae pobl yn cael eu hannog i fynd am gwrs 10 wythnos ac mae hynny'n gallu gwneud "byd o wahaniaeth", medd Dafydd Millns.

"Mae'n rhoi cyfle i unigolion fod mewn amgylchedd hollol wahanol i'r hyn maen nhw wedi arfer gydag e o ddydd i ddydd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Yn fachgen ifanc doedd Dafydd Millns ddim wedi disgwyl y byddai'n gallu ailgydio yn ei waith ysgol

"Trwy dreulio amser ar y tonnau mae rhywun yn teimlo pŵer y môr. Chi ar drugaredd y môr ond ry'ch chi'n datblygu sgiliau newydd o ymdopi ac yn ffeindio mas be sy'n gweithio i chi.

"Mae e'n rhywbeth sy'n rhoi popeth mewn cyd-destun ac yn rhoi gwell persbectif i chi ar bethau - mae e'n rhywbeth unigryw iawn."

Prosiectau lleol

Ychwanega Dafydd ei fod wrth ei fodd bellach yn helpu grwpiau eraill - yn aml pobl ifanc bregus - sy'n dod ar gyrsiau.

"Dwi wrth fy modd gan sicrhau nad yw pobl yn mynd yn rhy bell allan i'r dŵr," meddai.

"Gyda fy mhrofiad i, dwi'n deall o le mae'r bobl ifanc 'ma yn dod, a dwi'n gobeithio bo' fi'n gallu sicrhau bo' nhw'n gallu gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd yma."

Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae Plant Mewn Angen yn ariannu 102 prosiect yng Nghymru

Yr hyn sy'n bwysig i bobl gofio, meddai Dafydd a'r trefnwyr yng Nghymru, yw bod Plant Mewn Angen yn ariannu prosiectau lleol.

"Ar ddiwedd y dydd mae llawer o'r arian yma yn mynd at brosiectau lawr yr hewl i chi, ac at bobl chi'n gweld sy'n cerdded lawr y stryd," ychwanegodd Dafydd

"Mae'r arian yma yn adeiladu cymunedau mwy iachus."

Gydol ddydd Gwener bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru a bydd nifer o raglenni'r dydd yn rhoi sylw i'r ymgyrch.

Bydd cyfweliad Dafydd Millns i'w glywed yn llawn ar raglen Aled Hughes am 09:00 ar Radio Cymru ac yna ar BBC Sounds.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig