Cwpl 'oedd methu byw ar wahân' wedi lladd eu hunain
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest bod cwpl oedrannus o'r gogledd wedi lladd eu hunain gan nad oedden nhw'n gallu wynebu'r syniad o fod ar wahân.
Roedd Ivor Williams, 92, a Laura Williams, 87 - y ddau o Fangor yn wreiddiol - wedi bod yn briod ers 64 mlynedd.
Roedd iechyd y pâr wedi bod yn dirywio, ac roedden nhw'n "ddibynnol iawn" ar gymorth gofalwyr ac aelodau'r teulu.
Clywodd y cwest yn Rhuthun bod y cwpl wedi gadael nodyn yn diolch i'w teulu am edrych ar eu holau.
Cafodd y ddau eu canfod yn anymwybodol yn eu cartref ym Mhenmaenmawr ym mis Chwefror eleni, a bu farw'r ddau yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddarach.
Yn dilyn strôc yn 2021, roedd symudedd Ms Williams wedi ei effeithio yn sylweddol, ac er iddi wneud cynnydd gyda help ffisiotherapyddion, doedd hi ddim yn gallu defnyddio ei braich chwith.
Roedd iechyd Mr Williams hefyd wedi effeithio ar ei allu i fyw yn annibynnol.
Mewn datganiad, dywedodd Peter Williams - mab Mr a Ms Williams - ei fod wedi dod o hyd i'r pâr yn anymwybodol yn eu cartref ym Mryn Helyg ar fore 5 Chwefror.
Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, cyn cael eu symud i Ysbyty Glan Clwyd.
Bu farw Ms Williams dridiau yn ddiweddarach, a Mr Williams ar 14 Chwefror.
'Methu dychmygu bod ar wahân'
Ychwanegodd Peter Williams bod ei rieni yn teimlo embaras yn sgil eu dibyniaeth ar eraill, a'u bod nhw wedi gwneud ymholiadau gyda Dignitas.
"Roedden nhw wastad yn sôn am farw gyda'i gilydd, gan nad oedden nhw'n gallu dychmygu bod ar wahân," meddai.
Clywodd y cwest bod gan Mr a Ms Williams ddwy ferch ac un mab, a bod y ddau wedi byw bywydau llawn oedd yn cynnwys cyfnod yn byw yn Yr Almaen, a'u bod yn mwynhau gweithgareddau fel dringo a beicio.
Roedd Ms Williams hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn bowlio, a bowlio lawnt.
Daeth y crwner cynorthwyol ar gyfer gogledd, dwyrain a chanolbarth Cymru, Kate Robertson, i'r casgliad bod y ddau wedi lladd eu hunain, a'u bod nhw wedi bwriadu gwneud hynny gyda'i gilydd.
Ychwanegodd ei bod hi'n "gwbl amlwg fod y ddau yn ofnadwy o ddiolchgar am y cymorth a'r cariad y cawson nhw gan y teulu".