Mwy o law trwm yn ne Cymru dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd

Mae mwy o law trwm i'w ddisgwyl yn rhan helaeth o dde Cymru dros y penwythnos.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn rhwng hanner nos, nos Wener, a 10:00 fore Sadwrn.
Bydd yn berthnasol i ardaloedd yn 15 o siroedd Cymru - pob man oni bai am Bowys a chwe sir y gogledd.
Fe allai hyd at 55mm o law syrthio ym mryniau'r de, ac fe allai'r amodau gwaethaf achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.