Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Zebre 22-22 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Mason Grady yn erbyn ZebreFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Yr asgellwr Mason Grady yn cael ei atal gan amddiffyn Zebre

Roedd yna siom i Rygbi Caerdydd yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Parma nos Wener wedi i Zebre sgorio cais hwyr i sicrhau gêm gyfartal.

Fe diriodd Lopeti Timani, Ben Thomas a Mason Grady i roi Caerdydd mewn sefyllfa dda i ennill.

Roedd Franco Smith a Luca Morisi wedi croesi'r llinell i Zebre ac roedd yn ymddangos y byddai'r 11 o bwyntiad a gollwyd oherwydd cicio aflwyddiannus yn costio'n ddrud i'r tîm cartref.

Ond yna fe diriodd yr eilydd Leonard Krumov yn ystod y munudau ychwanegol ar ben yr 80, ac fe wnaeth trosiad hawdd Geronimo Prisciantelli ddod â'r Eidalwyr yn gyfartal.

Mae Caerdydd yn 12fed safle'r tabl gyda naw o bwyntiau.

Pynciau cysylltiedig