Caerdydd: Dau wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Ddeheuol CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Ddeheuol Caerdydd nos Sadwrn

Mae dau berson wedi eu cludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd yn y brifddinas.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod menyw 73 oed a dyn 76 oed wedi eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn y gwrthdrawiad am 21:45 nos Sadwrn ar Ffordd Ddeheuol Caerdydd.

Dioddefodd merch wyth oed, a oedd hefyd yn y car, o fân anafiadau.

Cafodd dyn 44 oed o Tottenham yn Llundain ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac o achosi anaf difrifol trwy yrru'n beryglus.

Cafodd y tri sydd wedi eu hanafu, yn ogystal â gyrrwr y trydydd cerbyd, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Dywedodd Heddlu De Cymru y cafodd y lôn ei chau am sawl awr tra bod ymchwiliad yn digwydd ar y safle.

Pynciau cysylltiedig