Bae Colwyn: Cyhuddo dynes, 29, o lofruddio dyn 65 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 29 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth dyn 65 oed ym Mae Colwyn.
Bydd Lauren Harris o Fae Colwyn yn ymddangos o flaen ynadon ddydd Sadwrn.
Mae'r achos yn ymwneud â gwrthdrawiad un cerbyd ar Princes Drive yn y dref am 02:15 fore Llun.
Cafodd dau ddyn, 33 a 42 oed, eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad hefyd, ond maen nhw bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau'n parhau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023