Parhau i chwilio am berson coll 'risg uchel' ger afon yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Angharad
Disgrifiad o’r llun,

Credir bod Angharad yn gwisgo jîns glas, siwmper las a wellingtons pinc pan aeth ar goll brynhawn Sul

Mae'r heddlu wedi ailddechrau chwilio am ddynes 55 oed aeth ar goll o'i chartref yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul.

Mae'r gwasanaethau achub wedi bod yn chwilio ger Afon Cothi yn ardal Pontargothi ers nos Sul, yn dilyn adroddiadau fod person wedi mynd i'r dŵr.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys mae Angharad tua 5'1" o daldra, gyda gwallt brown ac yn byw yn ardal Nantgaredig.

Credir ei bod yn gwisgo jîns glas a siwmper las, ac esgidiau wellingtons pinc pan aeth ar goll brynhawn Sul.

Ychwanegodd y llu bod ei theulu a'r heddlu'n bryderus iawn a'i bod yn cael ei hystyried fel person coll "risg uchel".

Fe ddaeth y chwilio i ben dros nos Lun, cyn ailddechrau bore Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd timau achub eu galw i ardal Afon Cothi nos Sul

Brynhawn Mawrth dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: "Rydym ar hyn o bryd yn cynnal y chwilio ar raddfa fawr yn ac ar hyd yr afonydd yn ardaloedd Nantgaredig, Pontargothi a Llanfynydd.

"Rydym yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel y Tîm Achub Mynydd a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac mae tîm plymio heddlu arbenigol hefyd yn rhan o'r chwilio."

Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn cefnogi teulu Angharad gyda swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn ystod y cyfnod anodd iawn yma."

Brynhawn Llun roedd cerbydau Tîm Achub Mynydd y Bannau Gorllewinol ar y safle gyferbyn â'r Cresselly Arms.

Yn ôl Jonathan Davison, perchennog y dafarn ar lan Afon Cothi, fe dderbyniodd alwad nos Sul fod peiriannau tân gyferbyn â'r dafarn, "yn chwilio am rywun yn yr afon".

Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davison ydy perchennog y Cresselly Arms

Ychwanegodd Mr Davison nad oedd pobl leol yn gwybod dim byd pellach, ond fod y gwasanaethau brys "wedi bod yn dawel iawn am bopeth".

Gwelwyd cŵn y gwasanaethau brys a hofrenyddion yn cylchu'r ardal ddydd Sul, ac mae disgwyl i'r cyhoedd weld mwy o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn yr ardal wrth i'r chwilio barhau.

Dywedodd y llu mewn datganiad: "Diolchwn i'r gymuned am eu hamynedd a gofynnwn yn barchus i bobl beidio â mynychu'r ardal yn ystod yr oriau tywyll gan fod y tir yn heriol.

"Gofynnir i unrhyw un sydd wedi gweld Angharad, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r chwiliad, i hysbysu Heddlu Dyfed-Powys."

Pynciau cysylltiedig