Gigiadur Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Gyda chynifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig mae'n anodd gwybod ble i fynd!

Un sydd wedi bod yn twrio drwy'r digwyddiadur yw Cynan Evans o dîm Gorwelion sydd wedi dethol llond llaw o gigs Cymraeg cyffrous dros yr wythnosau nesaf.

Mae 'Gorwelion' yn brosiect ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.

Pys Melyn / Ynys

Y Cŵps, Aberystwyth - 8/12/23, Neuadd Ogwen, Bethesda - 9/12/23

Ar ôl dau fis o fynd o gwmpas Cymru a Lloegr, mae'r band o Ben Llŷn yn dod â'u taith i ben yn Neuadd Ogwen, Bethesda. Rhyddhaodd Pys Melyn, sydd wedi bod gyda'i gilydd ers dyddiau ysgol, eu sengl gyntaf yn 2018. Mae eu perthynas agos yn cael ei hadlewyrchu yn eu cerddoriaeth a'u perfformiadau.

Cafodd eu halbym cyntaf, Bywyd Llonydd, ei enwi ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2021. Ym mis Awst cafodd eu hail albwm, Bolmynydd, ei ryddhau. Mae'r albwm yn llawn elfennau o gerddoriaeth y 60au a 70au, cyfnod sydd yn amlwg wedi dylanwadu ar y band a'u prosiect diweddaraf.

Ffynhonnell y llun, skiwhiffrecords

Ynys fydd yn cefnogi ar y noson, sef prosiect unigol Dylan Hughes - gynt o Race Horses a Radio Luxembourg. Cafodd albym gyntaf Ynys ei enwebu am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Mae sawl wyneb cyfarwydd ym mand Ynys hefyd, felly digonedd o dalent i'w fwynhau yma!

Yn Neuadd Ogwen, yn cwblhau'r lein-yp mae Ffenest. Mae'r grŵp yma o Ddyffryn Conwy yn cyfuno dylanwadau seicadelig gydag elfennau gwerin i greu sain unigryw.

Chroma

The Globe, Caerdydd - 14/12/23

Mae Chroma yn paratoi am eu sioe olaf eleni. Bu 2023 yn flwyddyn lwyddiannus i'r band: rhyddhaon nhw eu halbwm gyntaf Ask For Angela a derbyn gwahoddiad i gefnogi Foo Fighters ym Manceinion yn 2024. 'Sdim dwywaith y bydd Chroma'n dod â'r flwyddyn i ben gyda bang!

Ffynhonnell y llun, The Globe

Yn ymuno â'r triawd i gefnogi fydd Red Telephone, Half Happy, Small Miracles a Dylan Blue. Fe fydd yn noson fawr i sîn roc Caerdydd - llawer o fandiau a dathliad bach o'r sîn cyn y Nadolig.

Sweet Baboo

Clwb Ifor Bach, Caerdydd - 21/12/23

Mae Sweet Baboo yn cynnal Baboomas, sef sioe Nadolig yng Nghlwb Ifor Bach ar yr 21ain o Ragfyr. Mae Sweet Baboo wedi bod yn perfformio ers dechrau'r 2000au ac felly yn gwybod yn iawn sut i fynd i hwyl pethau.

Ffynhonnell y llun, Clwb Ifor Bach

Bydd y noson yn cynnwys traddodiadau Nadolig a rhai caneuon Nadolig hefyd i ddeffro ysbryd yr ŵyl ym mhawb sy'n bresennol. Yn ogystal â'r hwyl Nadoligaidd, bydd perfformiadau gan Sweet Baboo, Ichi a Warm Leveret.

Mared a'r band

Galeri, Caernarfon - 22/12/23

Os am rhywbeth mymryn yn arafach ac ymlaciol, bydd Mared Williams a'i band anhygoel yn dod i Galeri, Caernarfon am un noson Nadoligaidd. Bu 2023 yn flwyddyn brysur i Mared gyda pherfformiadau yn Les Miserables, perfformiadau lu gyda Welsh of the West End, amryw ymddangosiadau yng ngwyliau mwyaf Cymru a serennu fel Branwen yn y sioe gerdd Branwen: Dadeni, i ddim ond enwi rhai pethau. Bydd y gig Nadolig yma yn cynnig digonedd o festive vibes fel y dywedodd Mared ei hun!

Ffynhonnell y llun, Mared

Yn ymuno â hi fydd Malan. Un o Gaernarfon yw Malan ac fe fydd hi'n dod â'i blas unigryw hi o jazz i agor y noson tra bod DJ Fresco yn cadw'r parti yn fyw rhwng setiau.

KIM HON

Yr Hen Gwrt, Caernarfon - 22/12/23

Ffynhonnell y llun, Kim Hon

Ar ôl rhyddhau cyfres gref o senglau fe gafwyd gan KIM HON eu halbwm gyntaf yn gynharach eleni. Er bod y casgliad yn y byd ers cwpl o fisoedd bellach, bydd y lansiad swyddogol yn digwydd yng Nghaernarfon ar drothwy'r Nadolig.

Mae'r rocars o Gaernarfon yn adnabyddus am eu perfformiadau egnïol a'u caneuon gwleidyddol, craff a heriol felly bydd Yr Hen Gwrt yn sicr o fod yn drydanol.

Yn ymuno â'r band i ddathlu'r albwm fe fydd Pys Melyn a Tri Hwr Doeth.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig