Mwy o law trwm ar y ffordd i'r de a'r canolbarth
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o law trwm i'w ddisgwyl dros nos ar draws y de a rhannau o ganolbarth Cymru, yn ôl rhybudd melyn diweddaraf y Swyddfa Dywydd.
Mae disgwyl i'r cawodydd gyrraedd nos Fercher, o hanner nos ymlaen, ac i'r amodau waethygu yn ystod bore Iau.
Yn ôl yr arbenigwyr, mae hyd at 40mm o law yn debygol yn y rhan fwyaf o lefydd, a hyd at 80mm dros rai o fynyddoedd y de.
Fe fydd y rhybudd mewn grym am gyfnod hirach na'r disgwyl yn wreiddiol - tan 18:00 brynhawn Iau.
Mae'n berthnasol i 16 o siroedd Cymru - Abertawe, Sir Benfro, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio pobl y gallai'r tywydd gwael achosi llifogydd a thoriadau i gyflenwadau trydan, ac amharu ar wasanaethau bysus a threnau a theithiau ar y ffyrdd.
Maen nhw hefyd yn annog pobl i fod yn ofalus ac i gymryd camau i ddiogelu eu cartref os ydynt mewn ardal lle mae llifogydd yn debygol.