Ryseitiau bwyd parti Nadoligaidd Rhian Cadwaladr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch Rhian yn creu Cyffug Siocled

Mae hi'n dymor 'gwahodd pobl rownd am lymaid a buffet'... ond mae penderfynu pa fwyd i'w goginio yn gallu bod yn gur pen.

Diolch byth, mae Rhian Cadwaladr wedi bod yn tyrchu drwy ei llyfr coginio Casa Dolig, ac wedi rhannu ambell i rysáit a fydd yn siŵr o blesio hyd yn oed y gwestai mwyaf crintachlyd.

Cwpanau Bach Sawrus

Mae'r cwpanau bach yma o fara wedi'i grasu yn haws i'w gwneud na thoes pastry ac yn ffordd dda o ddefnyddio bara sydd wedi dechrau mynd yn stêl.

Mi fedrwch eu llenwi efo beth bynnag a fynnoch, ac mi gadwan mewn tun am ychydig ddyddiau, heb eu llenwi.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Cynhwysion

Bara wedi'i sleisio

Olew

Dull

  • Cynheswch y popty i 180℃ / 160℃ ffan / nwy 3.

  • Irwch dun mini muffins efo olew.

  • Rholiwch y bara fesul tafell efo rholbren i'w ymestyn ychydig.

  • Torrwch y bara yn gylchoedd gyda thorrwr cylch.

  • Brwsiwch olew dros bob un o'r cylchoedd a'u gwasgu i mewn i'r tun.

  • Pobwch am tua 15-20 munud nes bod y bara wedi crasu, gan gadw llygad arnyn nhw.

Awgrymiadau ar gyfer llenwad

  • Caws meddal efo cennin syfi (chives) ac eog wedi ei fygu (smoked salmon)

  • Cig eidion efo saws marchruddygl (horseradish)

  • Mayonnaise ŵy a phaprica

  • Madarch wedi'u ffrio mewn ychydig o olew a garlleg

  • Paté pysgod (cymysgu eog, tiwna neu facrell efo caws meddal)

  • Corgimychiaid (prawns) efo cymysgedd o mayonnaise, sôs coch a 'chydig o sudd lemwn

  • Tomatos, nionyn coch a dail basil wedi'u malu'n fân, efo halen môr a phupur

  • Darnau o ham wedi'i falu'n fân efo tsytni

  • Porc carpiog (pulled pork) efo saws barbeciw

Torch Rholion Sosej

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Cynhwysion

1 paced 500g toes pwff (puff pastry)

800g cig sosej

2 lond llwy de o bowdr paprica

Hadau nigella (hadau nionyn du)

100g o gaws Cheddar wedi'i gratio

1 ŵy wedi'i guro

Tsytni dêts ac afalau (neu unrhyw tsytni o'ch dewis chi)

Dull

  • Cynheswch y popty i 200℃ / 180℃ ffan / nwy 6.

  • Rhowch haen o bapur pobi ar dun pobi mawr.

  • Mewn powlen fawr, cymysgwch y cig â'r paprica.

  • Taenwch ychydig o flawd ar fwrdd a rholiwch y toes i wneud siâp hirsgwar mawr, tua 43cm × 38cm o faint.

  • Dychmygwch fod y toes wedi'i rannu'n dri stribed hafal ar ei draws a rhowch y caws ar hyd y stribed canol.

  • Tasgwch ychydig o hadau nigella dros y caws.

  • Plygwch un stribed dros y caws i'w orchuddio'n llwyr a dewch â'r stribed arall drosto - mi fydd ganddoch un stribed wedyn.

  • Rholiwch y toes nes ei fod tua 65cm × 20cm o faint.

  • Gwnewch siâp sosej mawr hir efo'r cig a'i roi yng nghanol y toes.

  • Defnyddiwch yr ŵy wedi'i guro i frwsio un ochr i'r toes.

  • Plygwch yr ochr arall dros y cig, yna'r ochr ŵy dros hwn i'w selio.

  • Trowch hwn drosodd fel bod y sêl ar y gwaelod; mi fydd yn edrych fel un rholyn sosej enfawr. Trosglwyddwch i'r tun.

  • Torrwch ddwy ran o dair o'r ffordd drwy'r rholyn bob rhyw 3.5-4cm i wneud tua 15 darn, yna dewch â'r ddau ben at ei gilydd i ffurfio torch. Defnyddiwch fwy o'r ŵy i ddal y ddau ben at ei gilydd.

  • Trowch bob darn o'r rholyn sosej drosodd yn ysgafn, heb ei rwygo o'r rholyn, fel bod rhywfaint o'r cig yn y golwg.

  • Brwsiwch unrhyw does sydd yn y golwg â gweddill yr ŵy.

  • Pobwch am 40-50 munud nes bod y crwst yn euraidd, a'r cig sosej wedi'i goginio drwyddo. Cadwch lygad arno rhag iddo or-grasu.

  • Rhowch y dorch ar blât neu fwrdd pren a'i addurno gyda tsytni yn y canol.

Treiffl Mam

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Cynhwysion

1 Swiss roll jam

1 paced jeli coch

1 tun mefus

1 carton mawr o gwstard

Carton o hufen

Carton 300ml hufen dwbl

Peli bach siwgr i addurno

(Os ydi eich powlen dreiffl yn un mawr dwblwch y cynhwysion.)

Dull

  • Y noson cynt, neu o leia' pedair awr cyn y byddwch angen y treiffl, torrwch y jeli yn giwbiau a'u rhoi mewn jwg mesur. Rhowch ddŵr berw hyd at 1/4 peint a trowch i doddi'r jeli. (Mi fydda i yn colli amynedd ar ôl 'chydig ac yn ei roi yn y meicro am funud neu ddau i helpu iddo doddi yn gynt!)

  • Tywalltwch y sudd o'r tun mefus i fewn i'r jwg.

  • Torrwch y Swiss roll yn ddarnau a'u gosod yn y bowlen.

  • Rhowch y mefus yn y bowlen a thywalltwch y jeli drostynt.

  • Rhowch blât dros y bowlen a'i roi yn rhywle oer i setio.

  • Wedi iddo setio, rhowch y cwstard dros y jeli.

  • Chwipiwch yr hufen a'i roi dros y jeli. Y ffordd hawsa' o wneud hyn ydi ei roi mewn bag peipio a'i beipio dros y cwstard, ond os ydych chi yn ei roi arno efo llwy rhowch o fesul ychydig gan ddechrau o'r ochrau a gweithio'ch ffordd i'r canol rhag ofn i'r hufen suddo i'r cwstard.

  • Addurnwch fel y mynnoch.

Cyffug Siocled

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Cynhwysion

400g siocled

1 tun llaeth cyddwys (condensed milk)

100g siwgr eisin

50g cnau pistasio (yn gyfan, neu wedi eu torri os hoffech chi ddarnau llai)

25g menyn

Dull

  • Torrwch y siocled a'i roi yn y sosban, gyda'r llaeth cyddwys a'r menyn.

  • Rhowch o ar wres cymedrol a throi'r cymysgedd tan fod popeth wedi toddi ac yn sgleiniog.

  • Tynnwch y sosban oddi ar y tân, ac ychwanegu'r siwgr eisin a'r cnau, gan gymysgu popeth yn dda.

  • Irwch dun pobi - tun sgwâr dwi'n ei ddefnyddio - a rhoi papur pobi ynddo.

  • Rhowch y gymysgedd yn y tun, a'i roi yn yr oergell am tua chwarter awr.

  • Marciwch sgwariau yn y cyffug.

  • Rhowch cling-film am ei ben a'i roi yn ôl yn yr oergell am ryw dair awr nes ei fod o'n galed.

  • Torrwch y cyffug yn sgwariau a'u gweini.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig