Cig eidion mewn pwdin Nadolig... a danteithion eraill
- Cyhoeddwyd
Gyda'r Nadolig ar y gorwel mae cynnwys y bwrdd bwyd yn destun sydd angen sylw. Ond faint wyddoch chi am hanes a thraddodiad rhai o ddanteithion Nadoligaidd y gorffennol?
Yr hanesydd Elin Tomos sy'n pori trwy hen rysetiau'r ŵyl yng Nghymru.
Twrci a wystrys?
I'r mwyafrif o deuluoedd, twrci ydy canolbwynt gwledd y Nadolig. Serch hynny, arfer lled-ddiweddar ydy'r traddodiad o fwyta twrci dros yr ŵyl.
Pan gyflwynwyd tyrcwn i wledydd Prydain yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, daethant yn ffefryn ymhlith y cyfoethog oherwydd eu maint a'u hedrychiad trawiadol.
Yn dilyn ymdrechion i ffermio tyrcwn ar raddfa ddiwydiannol daeth yr aderyn yn fwy fforddiadwy yn ystod y ddeunawfed ganrif. Erbyn y cyfnod Fictoraidd roedd twrci yn boblogaidd tu hwnt ymhlith teuluoedd dosbarth canol, uchelgeisiol.
Roedd hi'n gyffredin yn y cyfnod yma i ferwi'r twrci yn hytrach na'i rostio.
Mewn rysáit o 1895, awgrymwyd y dylid berwi'r aderyn mewn 'llaeth a sudd wystrys' (oyster) a'i stwffio â 'nifer digonol o wystrys yn ôl maint yr aderyn.' Roedd gofyn ei ferwi am 'bedair neu bum awr'.
Dros y Nadolig ym 1902, aeth deuddeg o bobl yn sâl ar ôl bwyta twrci gan Ann Williams, Crescent, Bangor Uchaf. Gwellodd pawb yn fuan wedi hynny, ac eithrio Ann, a fu farw ar Ddydd Calan 1903.
Yn ystod y cwest i'w marwolaeth, gofynnodd y crwner i'r heddlu archwilio'r cwmni o Birmingham a oedd wedi cyflenwi'r twrci.
Poblogrwydd gwyddau
Er gwaethaf poblogrwydd twrci ymhlith teuluoedd cefnog, ni ddaeth tyrcwn yn rhan annatod o wledda'r 'Dolig yng Nghymru tan ryw 60 mlynedd yn ôl.
Ers yr Oesoedd Canol, mae ieir neu poultry wedi bod yn gigoedd poblogaidd dros yr ŵyl gan eu bod, fel rheol, ar eu gorau i fwyta rhwng mis Medi a mis Mawrth.
Am ganrifoedd lawer, y ffefryn amlwg yng Nghymru oedd gŵydd. Mewn ardaloedd gwledig, bu'n draddodiad gan berchnogion tir i roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel ym mis Medi - gan ofalu i gadw nifer wrth gefn i'w gwerthu yn y marchnadoedd Nadolig.
Er mwyn gallu fforddio gŵydd, roedd llawer o deuluoedd tlotach yn ymuno â 'chlybiau gŵydd' neu 'glybiau Nadolig.' Am fisoedd, byddai teulu yn cyfrannu arian i glwb a fyddai'n eu cyflenwi â chig a danteithion ar gyfer y 'Dolig.
Mae'r gyfrol boblogaidd Llyfr Coginio a Chadw'r Tŷ (c.1880) yn awgrymu bod gŵydd i'w rhostio yn costio oddeutu chwe swllt, sydd o gwmpas £25 yn ein harian ni heddiw.
I'w choginio, mae'r awdur yn cynnig y dylid gosod yr ŵydd 'o flaen tân cryf a chlir… bâstiwch yn aml hyd nes y coginia yn ddigonol.'
Yng nghanolbarth Cymru, roedd hi'n gyffredin i wragedd ddefnyddio gwaed gwyddau'r Nadolig i goginio tarten felys. Mae'n debyg mai arferiad yn Sir Drefaldwyn yn unig oedd tarten gwaed gŵydd!
Tynnu cyflaith
I'r rheiny â dant melys uchafbwynt yr ŵyl oedd 'Noson Cyflaith.' Dyma noson lle'r oedd teuluoedd yn gwahodd ffrindiau draw i wledda a gwneud cyflaith neu daffi. Cynhelir 'Noson Cyflaith' yn aml ar noswyl Nadolig fel bod digon o gyflaith i leddfu'r llwnc yn ystod gwasanaeth Plygain ar fore'r Nadolig.
Yn ôl rysáit o 1900, roedd angen berwi hanner pwys o driog a phwys o siwgr am ugain munud. Os oedd y gymysgedd yn caledu 'wrth ollwng ychydig o ddwfr oer' arno, roedd yn barod.
Cyn ei dynnu oddi ar y tân roedd rhaid ychwanegu hanner pwys o fenyn a'i ferwi am ychydig o funudau yn ychwanegol.
Wedi gosod y gymysgedd mewn llestr wedi ei iro roedd hi'n amser ei 'dynnu.' Roedd 'tynnu cyflaith' yn grefft arbennig a'r bwriad oedd ei dynnu hyd nes oedd y gymysgedd yn edrych fel rhaffau hirion.
Yng ngogledd Cymru, byddai bechgyn a merched ifanc yn aros nes bod eu rhieni wedi mynd i'r gwely ac yn treulio oriau'n sgwrsio a charu tra'r oedd y cyflaith yn berwi. Yn achlysurol, roedd y bechgyn yn chwarae triciau ar y merched trwy ddringo ar ben to'r tŷ a gollwng rhywbeth i lawr y simnai i'r pot berwedig a difetha'r cyflaith!
Pwdin (cig eidion) Nadolig
Saig felys sydd wedi parhau'n boblogaidd ar draws y canrifoedd ydy pwdin Nadolig.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y 'pwdin' yn edrych yn debycach i uwd neu gawl ac yn cynnwys cymysgedd o gig eidion neu gig dafad, rhesins, cyrens, prŵns, gwinoedd a sbeisys.
Dros amser, addaswyd y rysáit i gynnwys wyau, briwsion bara, ffrwythau sych, cwrw a gwirodydd.
Erbyn y ddeunawfed ganrif, daeth hi'n arfer cyffredin i ferwi'r gymysgedd mewn darn o liain gan olygu bod y pwdin yn ffurfio mewn siâp pelen.
Yn hanesyddol, er nad oedd ryseitiau yn cynnwys eirin fel y cyfryw cyfeiriwyd at y pwdin fel plum pudding, gan bod y term plum yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pob math o ffrwythau sychion.
Tra bod bwydydd fel twrci a phwdin Nadolig yn parhau yn rhan annatod o ddathliadau'r ŵyl - diolch byth bod rhai eraill wedi diflannu!