Storm Elin: Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y rhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Fe all gwyntoedd cryfion amharu ar deithio ar draws Cymru ddydd Sadwrn, yn ôl y rhagolygon.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer pob awdurdod lleol, sydd mewn grym ers 09:00 tan 23:45 nos Sadwrn.

Dywedon nhw fod "peth oedi i drafnidiaeth ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi yn debygol", yn ogystal a thoriad mewn cyflenwad trydan rhai ardaloedd.

Mae wedi ei henwi yn Storm Elin gan wasanaeth meteorolegol Iwerddon, Met Eireann.

Erbyn 12:45 roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod 15 rhybudd llifogydd.

Rhagwelir y bydd hyrddiau o 45 i 55mya mewn ardaloedd arfordirol, gyda 60-70 mya yn bosib ym Môr Iwerddon.

"Bydd gwyntoedd yn cynyddu yn y gorllewin yn ystod bore Sadwrn yna ar draws ardaloedd eraill drwy'r prynhawn," medd y Swyddfa Dywydd.

"Bydd y gwyntoedd wedyn yn lleddfu'n araf o'r gorllewin drwy'r nos.

"Os ydych ar yr arfordir, arhoswch yn ddiogel yn ystod tywydd stormus trwy fod yn ymwybodol o donnau mawr.

"Hyd yn oed o'r lan gall tonnau mawr eich ysgubo allan i'r môr."

Pynciau cysylltiedig