Dathlu 'pobl o bob maint' ym myd natur
- Cyhoeddwyd
"Mae'r awyr agored yn barod i bawb ar unrhyw bryd." Dyna yw neges Sara Huws, sy'n un o sylfaenwyr y grŵp Every Body Outdoors, y mudiad sy'n annog pobl o bob maint i fwynhau bod allan yn yr awyr agored.
Mae Sara a'r grŵp yn galw am ddillad, cyfarpar a chynrychiolaeth ar gyfer pobl maint plus yn yr awyr agored. Ar hyn o bryd mae Sara'n cydweithio gyda Croeso Cymru, dolen allanol i godi ymwybyddiaeth o Every Body Outdoors, a'u gwaith o roi cyfleodd i bobl o bob maint a siâp.
"'Da' ni wedi bod yn cerdded ac anturio ar hyd a lled Cymru eleni, ac mae Ionawr yn gyfnod fel rheol ble mae pobl yn cael eu hannog i edrych ar eu 'ffaeleddau' ac i drawsnewid," meddai Sara.
'Mwynhad yn y byd awyr agored'
"Ein pwrpas ni yw i atgoffa pobl bod yr awyr agored yn dy dderbyn di fel rwyt ti rŵan, a bod yna fentrau fel Every Body Outdoors sy'n cefnogi ti be' bynnag 'di dy siâp di, dy bwysau di, neu lefel dy ffitrwydd - does 'na ddim pwysa yna i ti 'wella dy hun' - cael mwynhad yn y byd awyr agored ydy'n diben ni.
"Da ni'n grŵp amrywiol iawn o bobl, ac mae'r gymuned wedi tyfu i fod yn y miloedd. Mae'n ystod eang o bobl sydd eisiau mentro i'r awyr agored, neu mentro nol ar ôl newid byd - er enghraifft ôl cael plant, salwch neu dorri allan o rwtîn.
"Ond hefyd mae ganddon ni ddringwyr mynydd, nofwyr iâ, cerddwyr a rhedwyr ultra, pobl sy'n dringo'n ddifrifol, bobl sy'n canŵio padl-fyrddio... felly mae'n ystod eang iawn o weithgareddau, a 'dyn ni i gyd yn dysgu gan ein gilydd a'n ehangu gorwelion ein gilydd."
Mae'r grŵp yn trio cynnig gwasanaeth i bobl o wahanol allu, ac hefyd pobl sydd ag amcanion gwahanol, fel esboniai Sara:
"Mae yna amrywiaeth yn y criw yn y lefelau sgil a hyder, ond yr hyn sy'n ein clymu ni at ein gilydd yw ein cariad ni at yr awyr agored, a'n bod ni'n rhannu rhai sialensiau pan mae'n dod at gael gafael ar cit a dillad addas ar gyfer cymryd rhan yn y gweithgareddau yna.
"Ers sefydlu Every Body Outdoors, 'da ni wedi gweld cynnydd cyflym iawn yn faint o ddillad er enghraifft, gwrth-ddŵr sydd ar gael ar y farchnad mewn meintiau mwy. Dy'n nhw'n sicr ddim yn mynd mor bell a be' fyswn i'n hoffi, i gynnwys bobl dros maint 22 er enghraifft."
'Gweithio gyda brandiau'
"'Da ni wedi bod yn gweithio efo brandiau i, nid yn unig gynyddu yr ystod o feintiau mae nhw'n ei werthu, ond hefyd gwella ffit y dillad, achos yn hanesyddol be' oedd yn digwydd oedd bod rhywun yn cymryd côt maint wyth a gwneud honno'n fwy.
"Ond os wyt ti maint 'plus' efallai bod gen ti fesuriadau gwahanol iawn, mwy o curves er enghraifft os ti'n ddynes. Felly rydyn ni wedi gweithio gyda brandiau i gael dillad sy'n ffitio'n well, a cadw ni'n saff, sych a chynnes ar y mynydd - mae cit da yn galluogi cymaint.
"Eleni fe wnaethon ni hyfforddi gwirfoddolwyr rhanbarthol, sydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Maen nhw'n arwain teithiau cerdded cynhwysol, sy'n groesawgar i bobl plus yn eu hardaloedd nhw. Ac hefyd, diolch i haelioni gwahanol noddwyr mae ganddo ni kit-pool, sef dewis eang o ddillad maint mwy, a digwyddiadau ble mae rhywun yn cael trio rheiny'n mlaen a chael cyngor arbenigol. Mae'n ystod o bob dim - cotiau, pecynnau cefn, harnesi dringo, siacedi achub a mwy."
"Mae ganddon ni aelodau yn entrychion Highlands yr Alban, eraill yn rhannu amser yn gwahanol lefydd, mae rhai yn Lloegr, a dwi'n ne Cymru. 'Da ni'n dibynnu ar ewyllys da ein gwirfoddolwyr ac felly mae 'di tyfu yn eitha' organig.
"Ond be' yda ni wedi ffeindio ydy bod y croeso 'da ni wedi ei gael yng Nghymru o ran hosteli, llwybrau a'r parciau cenedlaethol, a'r diwylliant a chroeso lleol, wedi golygu ein bod ni'n gallu cynnal lot o'r cyrsiau hyfforddi yma dros y flwyddyn d'wethaf. Nid yn unig i hyfforddi gwirfoddolwyr i redeg grwpiau eu hunain, ond hefyd hyfforddi mewn sgiliau mynydd, sgiliau nos (night navigation)."
Pwysigrwydd y Gymraeg
Yn ei rôl gyda Every Body Outdoors, mae Sara'n cael cyfle i addysgu pobl am enwau gwreiddiol Cymraeg y mynyddoedd a'r ardaloedd yn ehangach.
"Fel un o'r aelodau Cymraeg ei hiaith o'r grŵp, dwi wastad yn frwdfrydig ein bod ni'n cynnwys enwau llefydd, ac edrych ar sut mae hynny'n gallu helpu ni i ddeall y tirwedd a sut mae hynny'n cyfoethogi profiad pawb yng nghefn gwlad Cymru. Mae wedi bod yn galonogol cael adborth da gan hyfforddwyr a'r rhai sy'n cymryd rhan, a'u gweld yn frwdfrydig i ddysgu mwy.
"'Dyn ni'n eirioli dros teimlo bo' chi'n perthyn yn yr awyr agored, beth bynnag sy'n eich atynnu chi ato - boed yn llesiant a iechyd meddwl, awch am sialens, cymdeithasu, neu eich bod jyst yn joio bod y tu allan. I fi mae o i'w wneud efo hanes a thirwedd, i bobl eraill ma' nhw'n gweld mynydd ac eisiau bod ar y top... dwi'n reit hapus i gerdded rownd y gwaelod os oes yna fyrddyn neu nodwedd hanesyddol i'w harchwilio!
Y dyfodol
"Mae Every Body Outdoors wedi mynd o nerth i nerth mewn cyfnod byr iawn, ac mae ganddo ni gymuned mor fywiog a mor hael gyda'u hamser ac arbenigedd. Gan bod ni wedi hyfforddi gwirfoddolwyr rhanbarthol y gobaith ydy bod fwyfwy o bobl yn teimlo'n hyderus i ymuno â nhw yn lleol, jest i gerdded a dod i nabod eu gilydd.
"'Da ni am barhau i weithio efo brandiau i estyn yr ystod o feintiau sydd ar gael ac i wneud yn siŵr bod y dillad 'na'n fforddiadwy, o ansawdd da. Mae ganddo ni lot ar y gweill, ond dydyn ni ddim eisiau gwario gormod o amser mewn cyfarfodydd ac ar Zoom - achos ein cariad ni ydy bod tu allan efo'n gilydd achos mae'r awyr agored yn perthyn i bawb."
Hefyd o ddiddordeb: