Brynsiencyn: Ffrae dros gynllun llinellau melyn ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi codi mewn pentref ar Ynys Môn yn sgil cynllun i rwystro ceir rhag parcio ar hyd y brif stryd.
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bwriad i osod llinellau melyn dwbl ar ffordd yr A4080, sy'n rhedeg drwy bentref Brynsiencyn.
Yn ôl yr awdurdod mae'r ffaith fod ceir yn parcio ar y ffordd yn cael effaith ar ddiogelwch a'r llif traffig, gan adael ond un llwybr o draffig yn aml.
Ond mae pryderon ar yr effaith ar bobl leol, gyda galwadau i greu mwy o lefydd parcio penodol er mwyn galluogi'r cynllun i fynd yn ei flaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn mai dyddiau cynnar yw hi yn y broses ar hyn o bryd, a bydd cyfle i drigolion gynnig sylwadau cyn cyflwyno unrhyw orchymyn traffig.
'Lle mae'r ceir am fynd?'
Mae pentref Brynsiencyn rhwng Llanfairpwll a Niwbwrch, gyda phrif ffordd de'r ynys - yr A4080 - yn rhedeg drwyddi.
Ymhlith y pentrefwyr sy'n annog y cyngor i ailfeddwl ydi Dyfed Wyn Roberts, sy'n byw ar y stryd fawr.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Mr Roberts fod "dicter" yn y pentref oherwydd y diffyg ymgynghori.
"Yr unig lythyr 'da ni wedi ei gael ydi un i'r cyngor cymuned. 'Da ni fel unigolion yn y pentref - hyd yn oed y rhai sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol - ddim wedi cael unrhyw fath o ohebiaeth.
"Y pryder ydi fod y cynllun am dynnu llefydd i 30 o geir sy'n parcio ar y stryd fawr, a lle maen nhw am barcio wedyn?
"Mae 'na bedwar neu bump o stadau ond mae preswylwyr y stadau yn parcio yno'n barod, lle mae'r 30 o geir am fynd?
"Mae tafarn a chaffi poblogaidd yn dibynnu ar un maes parcio bach, yn barod mae hwnnw'n llawn gan fod ddim digon o le ar y stryd fawr ac mae cael mwy o geir yn hwnnw am gael effaith andwyol arnyn nhw."
'Dros dro ydi'r tagfeydd'
Er yn cydnabod fod tagfeydd yn cael eu hachosi gan fod ond lle i un rhes o draffig basio drwy'r pentref ar adegau, gyda cheir weithiau yn gorfod gyrru ar y palmant, roedd cynnig o ddatrysiad.
Ychwanegodd Mr Roberts: "Dros dro ydi'r tagfeydd, a mae'r bwriad yma am greu llawer iawn mwy o broblemau i'r pentref.
"Mae'r ateb yn syml, mae angen creu llefydd parcio ychwanegol i bawb barcio'n ddiogel oddi ar y stryd fawr a gawn nhw roi hynny o linellau melyn maen nhw eisiau ar y stryd fawr wedyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Rydym yn bryderus am yr effaith y mae parcio yn ei gael ar ddiogelwch a llif traffig ar ffordd brysur drwy'r pentref.
"Mae proses benodol ar gyfer cyflwyno gorchymyn traffig gyda gwahanol gamau ymgynghori a chyfreithiol.
"Megis cychwyn ar y broses ydym a bydd gan drigolion gyfle i gael cynnig sylwadau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023