Apêl National Theatre Wales am gyllid gan CCC wedi methu
- Cyhoeddwyd
Mae apêl National Theatre Wales (NTW) i geisio sicrhau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) wedi cael ei wrthod.
Roedd y sefydliad yn un o sawl enw amlwg oedd yn absennol o'r rhestr o sefydliadau sy'n derbyn cefnogaeth ariannol y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth NTW gyflwyno apêl "manwl a chynhwysfawr" oedd yn amlinellu pam y dylid ailystyried y penderfyniad.
Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod yn cytuno'n unfrydol nad oedd yna unrhyw faterion yn y cais oedd yn haeddu adolygiad neu ailasesiad, ac yn sgil hynny eu bod nhw wedi cadw at y penderfyniad gwreiddiol.
Mewn ymateb dywedodd NTW eu bod wedi eu "siomi'n ddirfawr", gan barhau i alw am "fwy o gefnogaeth a thegwch i'r celfyddydau yng Nghymru".
Mae CCC, y corff sy'n dosbarthu arian Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol i gefnogi'r sector yng Nghymru, wedi cynnig grantiau amodol gwerth bron i £30m i 81 o sefydliadau eleni.
Mae nifer y sefydliadau sy'n derbyn arian yn gynnydd o'r 67 a gafodd y tro diwethaf, a hefyd mae cyfanswm yr arian sydd ar gael wedi cynyddu o £28.7m i £29.6m.
Wedi'r cyhoeddiad ym mis Medi, dywedodd National Theatre Wales bod y penderfyniad yn "sioc ddofn", a fyddai'n effeithio ar staff, cynhyrchwyr theatr a chymunedau.
Penderfyniad 'unfrydol'
Ond roedd penderfyniad CCC i gadw at y penderfyniad gwreiddiol yn "unfrydol".
Dywedodd y corff mewn datganiad: "Wrth ddod i'r penderfyniad yma fe wnaeth y cyngor roi pwyslais arbennig ar y canllawiau adolygiad buddsoddi, ac roedd y broses asesu wedi ei dilyn yn llawn.
"Mae ymateb manwl, sy'n ymhelaethu ar y rhesymau penodol pam bod y penderfyniad yma wedi ei wneud, wedi cael ei anfon at NTW."
Ychwanegodd CCC mai dyma yw diwedd y broses apêl.
Galw am 'degwch'
Dywedodd National Theatre Wales eu bod wedi eu "siomi'n ddirfawr" gan y penderfyniad, ac er "wedi cymryd rhan yn y broses apelio mewn ewyllys da", roedd yn gofyn am "lawer o lafur a llawer o fanylion".
"Mae'r sefyllfa wedi bod yn anodd iawn i'n helusen ac i'r gwneuthurwyr theatr, y sefydliadau diwylliannol a'r cymunedau niferus rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
"Byddwn bellach yn treulio amser yn trafod gyda'n rhanddeiliaid, ein partneriaid a'n cyllidwyr i ystyried ffyrdd posibl ymlaen, a byddwn yn gwneud datganiad llawnach fis Ionawr.
"Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i alw am fwy o gefnogaeth a thegwch i'r celfyddydau yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023