Dau yn yr ysbyty wedi 'ymosodiad difrifol' yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dau ddyn ifanc yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu yng nghanol Caerdydd.

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad yn y Sgwâr Canolog am tua 20:45 nos Fawrth.

Dywedodd yr heddlu bod y ddau lanc, 17 ac 18 oed, mewn cyflwr difrifol.

Y gred yw bod dau grŵp o bobl ifanc yn yr ardal adeg y digwyddiad, a dywedodd yr heddlu eu bod yn astudio lluniau CCTV o adeiladau cyfagos.

Cafodd yr ardal ei chau i'r cyhoedd am gyfnod wrth i'r ymchwiliad barhau, ond mae'r rhwystrau bellach wedi eu symud.

Mae Heddlu'r De yn galw ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau fideo o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig