Dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei dynnu o afon
- Cyhoeddwyd

Roedd y gwasanaethau brys i'w gweld ger Afon Taf yn ardal Pont y Gored Ddu (Blackweir) fore Sul
Mae dyn mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei achub o afon yng Nghaerdydd.
Dywed Heddlu'r De fod y gwasanaethau brys wedi'u galw am 08:20 i adroddiadau fod dyn yn Afon Taf.
Cafodd ei dynnu o'r dŵr a'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru y brifddinas.
Mae mewn cyflwr argyfyngus, neu "critical", meddai'r llu.