Arestio dyn ar ôl ymosodiad difrifol yn Llandaf

  • Cyhoeddwyd
LlandafFfynhonnell y llun, Kathryn Charles

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Stryd y Capel yn Llandaf ychydig cyn 11:30.

Dywedodd y llu fod swyddogion arfog wedi eu galw fel rhagofal.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio wedi'i gymryd i orsaf heddlu Bae Caerdydd.

Mae'r heddlu yn rhybuddio pobl sy'n mynd i ddigwyddiadau yn Llandaf fod diffyg llefydd parcio yn sgil y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig