Caerdydd: Apelio am wybdoaeth wedi ymosodiad rhyw difrifol

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw difrifol yng Nghaerdydd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad o dan bont reilffordd rhwng Sgwâr Callaghan a Heol Eglwys Fair yng nghanol y brifddinas rhwng 05:00 a 06:00 y bore ar 27 Rhagfyr.

Mae swyddogion yn apelio am dystion i helpu'r ymchwiliad, yn enwedig swyddog diogelwch a oedd yn gwisgo siaced lachar a ymyrrodd i helpu'r dioddefwr yn ystod yr ymosodiad.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu eisiau siarad â swyddog diogelwch wnaeth ymyrryd yn ystod yr ymosodiad

Mae un dyn wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu gan ddefnyddio cyfeirnod 2300438257.

Pynciau cysylltiedig