Chwilio'n parhau am ddyn 23 oed a aeth i Afon Taf

  • Cyhoeddwyd
Joshua ShawFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joshua Shaw ei weld yn mynd i'r afon ym Mhontypridd ar 27 Rhagfyr

Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio Afon Taf am ddyn 23 oed a welwyd yn mynd i mewn i'r dŵr nos Fercher.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod Joshua Shaw wedi'i weld yn mynd i'r afon ym Mhontypridd, toc wedi 18:00 ar 27 Rhagfyr.

Mae'r heddlu, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth tân ac achub a hofrenyddion wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i ddod o hyd iddo, ond heb unrhyw lwc hyd yma.

Dywedodd y llu eu bod yn credu fod Mr Shaw yn gwisgo hoodie llwyd, trowsus tywyll a 'sgidiau gwyn.

Mae'r gwasanaethau brys yn parhau i chwilio glannau'r afon o Bontypridd at Gaerdydd, ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.