Chwilio am ddau ddyn wedi honiad o daflu tân gwyllt at fachgen

  • Cyhoeddwyd
Lluniau CCTV o ddau ddyn mewn siacedi duFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi lluniau dau ddyn maen nhw eisiau siarad â nhw mewn cysylltiad â'r digwyddiad

Mae'r heddlu eisiau siarad â dau ddyn mewn cysylltiad â honiad o daflu tân gwyllt at wyneb bachgen Noson Tân Gwyllt ddiwethaf yng Nghaerdydd.

Bu'n rhaid i'r bachgen 12 oed gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi iddo gael ei anafu ger Cei y Forforwyn, Bae Caerdydd tua 21;00 nos Sul 5 Tachwedd.

Doedd ei anafiadau ddim yn rhai sy'n newid bywyd.

Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau lluniau o ddau berson maen nhw'n awyddus i siarad â nhw mewn cysylltiad â'r ymosodiad honedig.

Pynciau cysylltiedig