Canfod corff ger Afon Taf wrth chwilio am ddyn ar goll

  • Cyhoeddwyd
Joshua ShawFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joshua Shaw wedi bod ar goll ers 27 Rhagfyr

Mae Heddlu De Cymru yn dweud bod corff wedi ei ganfod ger Afon Taf yn ardal Gwaelod-y-garth, wrth i'r llu chwilio am ddyn sydd ar goll.

Er nad yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu Joshua Shaw, 23, sydd wedi bod ar goll ers 27 Rhagfyr, yn ymwybodol o'r datblygiad.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod Mr Shaw wedi'i weld yn mynd i'r afon ym Mhontypridd, toc wedi 18:00 ar y noson honno.

Roedd y llu wedi dweud nos Fercher fod Mr Shaw yn ffoi oddi wrth heddweision oedd yn ceisio siarad gydag ef am rhywbeth oedd wedi digwydd ddyddiau ynghynt ar y pryd.

Ychwanegodd y rheddlu fod y corff wedi dod i'r amlwg wrth i lefelau'r afon ostwng yn dilyn cyfnod o law trwm.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y datblygiad a bydd ymchwiliad crwner yn cael ei gynnal i amgylchiadau'r farwolaeth.