Ffermwr yn canfod 'eryr prin' yn ardal Llanuwchllyn
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr yn dweud fod math prin o eryr wedi ei ganfod yn hedfan yn ardal Penllyn yng Ngwynedd.
Dywed Rhodri Jones ei fod wedi gweld yr aderyn am y tro cyntaf ddydd Mercher ac unwaith eto ddydd Iau ar dir ei fferm yng Nghwm Penanlliw ger Llanuwchllyn.
Yn ôl Cymdeithas yr RSPB mae Eryrod Cynffonwyn, dolen allanol [White-tailed Eagles] yn gallu mesur 90cm o daldra.
Dywedodd Mr Jones fod maint yr aderyn yn rhywbeth oedd yn sefyll allan fel rhywbeth unigryw iawn.
Yn wahanol i'r Eryr Aur, mae'r Eryr Cynffonwyn yn llai ffyrnig ac mae'n gallu bwyta bob mathau o bethau - pysgod, adar y môr, celanedd.
Yn ôl adaregwyr, mae'n cael ei adnabod weithiau fel Eryr y Môr.
'Dim byd tebyg'
"Fuodd o'n sefyll ar garreg yn sbïo lawr am y tŷ am awr dda, dwi'n siŵr," meddai Rhodri Jones.
"Mi oedd o'n ddigon tawel - es i tuag ato, ryw ychydig llai na chanllath i ffwrdd, er mwyn tynnu llun."
Un o'r gweithwyr ar y fferm welodd yr aderyn gyntaf, ond yn ôl Mr Jones, ni ddywedodd wrtho mai eryr oedd yr aderyn gan eu bod nhw mor brin yn yr ardal.
"Ddaru o ddim d'eud wrtha'i mai eryr oedd o i ddechra', gan fod ganddo ofn i mi chwerthin am ei ben o!"
Ychwanegodd: "Mae yna ddigon o fwncathod a barcutiaid yma, ond doedd hwn ddim byd tebyg i'r rheiny."
Dirgelwch
Yn ôl y naturiaethwr a'r darlledwr, Iolo Williams, mae'n newyddion gwych.
"Dydyn ni ddim yn eu gweld nhw'n aml," dywedodd. "A d'eud y gwir mi oedden nhw'n absennol am ganrifoedd - wedi nythu yma tua phum canrif yn ôl.
"Rŵan eu bod yn cael eu rhyddhau ar Ynys Wyth a'u bod yn gwneud yn well yn yr Alban, mi ydyn ni'n gweld ambell un... un bob ryw 10 mlynedd fel arfer."
Mae'r aderyn yma sydd wedi ei weld yn Llanuwchllyn "heb os" yn aderyn gwyllt, meddai Iolo Williams.
"Aderyn gwyllt ydy hwn, aderyn ifanc, cyw y llynedd," meddai.
"O le mae o wedi dod, wel mae hynny yn ychydig o ddirgelwch.
"Dydi o ddim yn un o'r adar sy'n cael eu rhyddhau ar Ynys Wyth, mi ydan ni'n gwybod hynny.
"Mi oedd un ifanc o'r cyfandir yn Norfolk ryw dair wythnos yn ôl ac mae hwnnw wedi mynd ar goll... gallai fod yn hwnna, dydyn ni ddim yn gwybod."
Wrth drafod prinder y math yma o aderyn, ychwanegodd Iolo Williams fod yr "eryrod yma yn rhan o'n hetifeddiaeth ni".
"Maen nhw wedi bod yn absennol ers yr unfed ganrif ar bymtheg ac mi fyswn i'n bersonol wrth fy modd yn gweld eryrod yn dod nôl i Gymru."
'Ddim fan hyn ydy'r lle iddo'
Ond ar y fferm ger Llanuwchllyn, er yn croesawu ei ymddangosiad, mae Mr Rhodri Jones yn gobeithio na fydd yr aderyn yn aros o gwmpas yn rhy hir, wrth iddo baratoi at gyfnod wyna ar ei fferm.
"Mae wedi bod yn bleser mawr ei weld o yma, mae'r bachgen yma yn bump oed ac wedi gwirioni yn ei weld o, ond dwi ddim yn meddwl mai fan hyn ydy'r lle iddo," ychwanegodd.
"Gobeithio fod hwn yn pasa gwneud ei ffordd o 'ma."
Mae eryrod wedi diflannu fel rhywogaeth yng Nghymru ers dros 150 o flynyddoedd, yn ôl prosiect Ailgyflwyno'r Eryr Cymru, dolen allanol.
Does dim gobaith eu gweld yn ymgartrefu yng Nghymru yn naturiol ar eu pennau eu hunain heb gymorth, meddai'r prosiect.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2019