Twll mewn wal Ysbyty Bronglais, Aberystwyth wedi gwrthdrawiad car

  • Cyhoeddwyd
Bronglais

Roedd rhaid gwagio rhan o ysbyty yn Aberystwyth fore Llun ar ôl i gerbyd daro'r adeilad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ysbyty Bronglais toc wedi 08:00.

Ni chafodd unrhyw gleifion na staff eu hanafu yn y gwrthdrawiad, ond mae gyrrwr y cerbyd yn derbyn triniaeth.

Mae'r digwyddiad wedi effeithio ar rai gwasanaethau yn Uned Ddydd Leri, ond mae'r ysbyty yn annog pobl i barhau i fynychu eu hapwyntiadau yno os nad ydynt yn clywed yn wahanol.

Maen nhw'n annog pobl i sicrhau mwy o amser i gyrraedd yr apwyntiad, ac yn dweud nad yw'r maes parcio ar agor.

Mewn datganiad, gofynnodd y bwrdd iechyd i bobl beidio â chysylltu â nhw i weld a yw eu hapwyntiadau wedi eu heffeithio. Bydd yr ysbyty yn ffonio'r unigolion hynny.

Mae'r ysbyty yn annog pobl i ddewis gwasanaethau gofal iechyd yn ofalus iawn, gan ddweud mai dim ond pobl sydd angen gofal brys ddylai ymweld â'r adran frys.

Pynciau cysylltiedig