Meddygfa Betws-y-coed: 'Da ni isio cadw fo fynd'

  • Cyhoeddwyd
Meddygfa Betws y Coed
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 150 o bobl i'r cyfarfod cyhoeddus nos Lun i drafod dyfodol meddygfa Betws-y-coed

Daeth dros 150 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym Metws-y-coed nos Lun i drafod dyfodol y feddygfa leol.

Bydd y partneriaid presennol yn dod â'u cytundeb gyda'r gwasanaeth iechyd i ben ddiwedd Ebrill, ond mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi dweud bydd y feddygfa yn parhau.

Mae gan y feddygfa dros 2,700 o gleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y broses o geisio penodi contractwr newydd.

'Da ni isio'i gadw fo i fynd'

Roedd y cynghorydd lleol Liz Roberts yn un o'r rhai a drefnodd y cyfarfod nos Lun.

"Mae 'na feddygfa wedi bod yma am flynyddoedd maith, a 'dan ni wedi bod yn lwcus iawn efo'r meddygon 'dan ni wedi cael yma ym Metws-y-coed," meddai.

"Mae 'na gymaint o bobl wedi bod yn poeni hwyrach y bysan nhw'n colli'r syrjeri yn gyfan gwbl. Ond dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Cynghorydd Liz Roberts yn un o'r 150 o bobl a ddaeth i'r cyfarfod

Roedd penaethiaid y bwrdd iechyd yn bresennol yn y cyfarfod yn y Neuadd Goffa - gan gynnwys y cadeirydd Dyfed Edwards, a ddywedodd y byddai'r feddygfa'n parhau ar agor.

"'Dan ni'n gobeithio y bydd pobl yn ymateb," meddai Mr Edwards.

"Unai trwy gymryd y feddygfa drosodd fel sydd ar hyn o bryd, neu byddwn ni, fel bwrdd iechyd, yn ymyrryd ac yn rheoli'r practis, ac yn recriwtio pobl ein hunain i'w redeg.

"Dyna ydi'r ddau ddewis - ond wnaethon ni wneud hi'n amlwg heno y bydd y practis yn parhau yma ym Metws-y-coed."

'Dwi'n teimlo lot gwell'

Mae Dafydd Jones yn byw yn Ysbyty Ifan ac yn defnyddio'r feddygfa ym Metws-y-coed.

"Mae'n cymunedau ni yn marw ar eu traed. Dydi'r adnoddau ddim gynno' ni i deithio'n bell i lefydd eraill," meddai Mr Jones.

"'Da ni mor ffodus o gael y feddygfa yma ym Metws-y-coed a 'dan ni isio'i gadw fo i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Jones yn byw yn Ysbyty Ifan ac yn defnyddio'r feddygfa ym Metws-y-coed

Un o gleifion eraill y feddygfa oedd yn y cyfarfod oedd Diana Pierce, a gafodd ei chalonogi.

"Ers i mi fod yma heno, dwi'n teimlo lot gwell," meddai.

"Mae pobl sydd wedi bod yma heno wedi dweud wrthym ni sut maen nhw'n ceisio sortio pethau allan."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Diana Pierce, claf yn y feddygfa, ei chalonogi gan y cyfarfod

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod nhw wedi cysylltu gyda chleifion y feddygfa i gyd, ac nad oes angen i unrhyw un adael.

Bydd y broses dendro i gontractwyr newydd yn dod i ben ddydd Gwener, 12 Ionawr.

Mae'r bwrdd iechyd yn gobeithio creu rhestr fer a chyfweld â'r ymgeiswyr gorau erbyn diwedd y mis.

Pynciau cysylltiedig