Carcharu chwaraewr rygbi Fiji am ymosodiadau rhyw Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi rhyngwladol o Fiji wedi'i garcharu am ddwy flynedd a 10 mis ar ôl cyfaddef ymosod yn rhywiol ar dair menyw yng Nghaerdydd.
Roedd Api Ratuniyarawa, 37, wedi ymosod ar y menywod, a oedd yn 19 oed, ym mar Revolution ynghanol y ddinas rhwng 31 Hydref a 2 Tachwedd y llynedd.
Roedd yng Nghaerdydd ar ôl cael ei ddewis i fod yn rhan o garfan y Barbariaid ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm Principality ar 4 Tachwedd.
Mewn gwrandawiad fis Rhagfyr fe blediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ymosod trwy dreiddiad, ac un cyhuddiad o ymosodiad rhyw.
Roedd y cyhuddiadau yn ymwneud â thair menyw, dros gyfnod o dair noson.
'Chwalu bywyd'
Roedd wedi mynd allan i glwb Revolution gyda rhai o'i gyd chwaraewyr am dair noson yn yr wythnos yn arwain at y gêm yn erbyn Cymru, ac yn oriau mân y bore, roedd yn ardal VIP y clwb pan ddaeth i gysylltiad â'r menywod.
Clywodd y llys ei fod wedi cyffwrdd â'r menywod mewn modd amhriodol, er eu bod nhw wedi dweud wrtho i beidio.
Clywodd y llys nad oedd y menywod yn adnabod ei gilydd, nac wedi cwrdd â Ratuniyarawa o'r blaen.
Cafodd datganiadau personol gan y dioddefwyr eu darllen i'r llys, yn amlinellu effaith yr ymosodiad arnyn nhw.
Roedd dwy o'r menywod wedi dweud wrth y llys eu bod bellach wedi colli hyder, ac yn ofni mynd allan yn y ddinas ar eu pennau eu hunain.
Dywedodd un o'r menywod bod yr ymosodiad wedi chwalu ei bywyd, gydag un arall yn dweud bod Ratuniyarawa wedi dwyn ei hannibyniaeth a'i hunan gred.
Dywedodd un arall o'r menywod ei bod hi wedi gorfod gadael ei swydd yn sgil yr ymosodiad, a bod ei pherthynas wedi chwalu.
Clywodd y llys gan fargyfreithwraig yr amddiffyniad bod Ratuniyarawa yn ymddiheuro i'r dioddefwyr, a'i fod yn teimlo cywilydd o'r boen mae wedi achosi iddyn nhw, i'w deulu ac i'w wlad.
Roedd Ratuniyarawa wedi bod yn chwarae i Wyddelod Llundain cyn i'r clwb fynd i'r wal, a doedd ganddo ddim clwb ar adeg y troseddau.
Enillodd 33 o gapiau dros Fiji, gan chwarae yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019.