Aberystwyth: Ymchwiliad i nodyn yn sarhau pobl o Birmingham

  • Cyhoeddwyd
NodynFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nodyn yn honni bod "low-lifes" o ganolbarth Lloegr yn difetha'r ardal

Mae'r heddlu'n ymchwilio i "ddigwyddiad casineb" ar ôl i nodyn sy'n sarhaus tuag at bobl o Birmingham gael ei adael tu allan i eiddo yn Aberystwyth.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y cafodd y nodyn ei adael tu allan i adeilad ar Goedlan Iorwerth toc wedi 19:00 nos Lun.

Mae'r nodyn yn honni bod "low-lifes" o ganolbarth Lloegr yn difetha'r ardal, gan eu hannog i fynd yn ôl i "Brummyland".

Dywed y nodyn, sydd hefyd yn gwawdio acen pobl o Birmingham, fod "Coedlan Iorwerth yn arfer bod yn ardal breswyl ddistaw" tan i bobl o Loegr ddod yno.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y nodyn ei adael tu allan i adeilad ar Goedlan Iorwerth nos Lun

Mae'n eu hannog i adael yr ardal a "chymryd ychydig filoedd" gyda nhw.

Dywedodd yr heddlu eu bod eisiau siarad gyda'r unigolyn a adawodd y nodyn, gan annog unrhyw un sydd â chamerâu CCTV neu ar gloch eu drws i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig