'Gallai gorsaf drenau newydd adfywio dwyrain Caerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o orsaf drenau Parcffordd CaerdyddFfynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn fwriad yn wreiddiol i'r orsaf a pharc busnes agor yn 2024

Gallai gorsaf drenau fawr newydd ger Caerdydd "adfywio" yr ardal ac ateb yr angen lleol am swyddi, yn ôl trigolion lleol.

Roedd datblygwyr gorsaf Parcffordd Caerdydd a'r parc busnes arfaethedig ger Llaneirwg wedi gobeithio'n wreiddiol y byddai'n agor yn 2024.

Ond mae amheuon am y cynlluniau hynny nawr, wedi i Lywodraeth Cymru gryfhau gofynion amgylcheddol yn eu rheolau cynllunio.

Mae ymgyrchwyr hefyd wedi cwestiynu maint y parc busnes arfaethedig, y maen nhw'n honni allai beryglu bioamrywiaeth yn yr ardal.

Mae datblygwyr yn dweud y gallai Parcffordd Caerdydd a'r parc busnes greu 6,000 o swyddi a chludo 800,000 o deithwyr rhwng Caerdydd a Llundain, gan ddod yn rhan o system newydd Metro De Cymru.

Does dim gorsaf drenau ar hyn o bryd yn nwyrain Caerdydd, ac felly mae rhai o'r trigolion lleol wedi croesawu'r cynlluniau.

"Mae'n syniad da, mae angen gorsaf newydd arnon ni," meddai Jennifer McCarthy.

"Bydd e'n cymryd traffig oddi ar y draffordd, a fi'n meddwl byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio i fynd mewn i'r dref ar y trên."

Disgrifiad o’r llun,

Jennifer McCarthy a Phillip O'Mahoney - dau sy'n byw yn lleol ac yn gweld manteision posib y datblygiad

Er nad oedd Phillip O'Mahoney yn ymwybodol fod y datblygiad hefyd yn cynnwys parc busnes, roedd dal yn gefnogol.

"Bydd hynny'n ychwanegu at y traffig, ond dwi'n siŵr bydden nhw'n gwneud gwaith i'r ffordd os felly," meddai.

Dywedodd Gillian Villis y byddai siwrne o saith munud i ganol y ddinas ar y trên yn help mawr i bobl.

"Ar hyn o bryd mae'n rhaid i chi un ai fynd ar y bws, neu yrru mewn a thalu am barcio, felly byddai'n llawer haws."

Ychwanegodd Francesca Baggett y byddai'n falch o weld mwy o fuddsoddiad yn yr ardal.

"Dwi'n gwybod fod llawer o bobl yn poeni am yr elfen amgylcheddol," meddai. "Ond cyn belled â'u bod nhw'n rhoi cynlluniau bioamrywiaeth mewn lle, dwi'n meddwl ei fod e'n syniad da."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Francesca Baggett bod modd datblygu'r ardal heb amharu ar y fioamrywiaeth

Fe roddodd Cyngor Caerdydd sêl bendith i'r cynlluniau ym mis Ebrill 2022, er gwaethaf pryderon am ecoleg a byd natur, a'r ffaith y gallai rhai o'r adeiladau fod hyd at 15 llawr o uchder.

Ond wedi i Lywodraeth Cymru newid eu rheolau datblygu ym mis Hydref 2023 i roi mwy o ddiogelwch i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI), cafodd gwrandawiad ei gynnal ddydd Mawrth i ailedrych ar y cynlluniau.

Dywedodd llefarydd ar ran Parcffordd Caerdydd eu bod nhw'n "siomedig" gyda'r oedi, ond eu bod nhw'n dal yn obeithiol y byddai'r datblygiad yn digwydd.

"Drwy gydol y broses gynllunio gynhwysfawr i Barcffordd Caerdydd, rydyn ni'n grediniol o'r farn y bydd Caerdydd, a de Cymru'n gyffredinol, yn elwa'n sylweddol o fuddsoddiad mawr mewn isadeiledd trafnidiaeth a swyddi newydd fyddai'n deillio o orsaf newydd ac ardal fusnes gynaliadwy."

Ffynhonnell y llun, Cardiff Parkway Developments Ltd

Ond mae grŵp o'r enw Ffrindiau Gwastadeddau Gwent yn dweud y byddai'r parc busnes yn niweidio'r amgylchedd ac yn ychwanegu at broblemau traffig yn yr ardal.

"Ddylai parc busnes ddim gael ei adeiladu ar ecosystem fregus a chymhleth yn ystod argyfwng natur," meddai'r grŵp mewn datganiad.

"Mae 'na gannoedd ar filoedd o droedfeddi sgwâr o swyddfeydd eisoes yn wag yn nwyrain Caerdydd - rywfaint ohono dafliad carreg o'r parc busnes arfaethedig."

Ychwanegodd y grŵp nad oedden nhw'n credu bod adeiladu'r parc busnes yn esiampl o'r "amgylchiadau hollol eithriadol" oedd ei angen er mwyn ei wneud yn gymwys dan bolisi newydd Llywodraeth Cymru ar safleoedd SSSI.

Yn dilyn y gwrandawiad cynllunio yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, bydd yr arolygydd cynllunio nawr yn cyflwyno adroddiad arall i weinidogion Llywodraeth Cymru ei ystyried.