Brychan Llŷr 'wedi cael digon o deimlo'r afiechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor Brychan Llŷr wedi dweud mai 2023 oedd y "flwyddyn gyfan gynta' i fi fod yn sobor ers i fi fod yn yfed".
Wrth sgwrsio ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru dywedodd ei fod wedi cael "llond bola, wedi cael digon - digon o deimlo'r afiechyd".
Dywedodd iddo sylweddoli "bod llai o amser o'm mlaen i na beth sydd tu ôl."
"Pan bod un yn yfed mae'n gwastraffu amser yn ddifrifol," meddai.
Bu hefyd yn trafod ei berthynas â'i dad, y bardd Dic Jones.
Methu yfed 'yn torri 'nghalon i'
Dywedodd Brychan Llŷr ar y rhaglen: "We'n i wedi bod trwy sobri lan droeon o'r blaen, ond 'neud y camgymeriad o feddwl 'ma'n iawn i fi allu cael un bach neu ddau'.
"Ond mae'r un neu ddau 'na yn troi mewn i wythnos, pythefnos ac wedyn ma' blwyddyn arall wedi mynd."
Erbyn hyn, mae'n dweud ei fod yn teimlo'n "gyfforddus".
Dywedodd: "Dwi'n ymwybodol 'mod i wedi bod ar y cyfryngau o'r blaen yn dweud bod yr yfed tu ôl i fi.
"Ond y gwahaniaeth mwyaf nawr yw 'mod i'n gwybod bo' fi ffaelu mynd am beint bach ar ôl gig neu ar brynhawn Sadwrn, a ma' hwnna'n torri 'nghalon i."
'Synnu i weld fi nôl'
Fe aeth Brychan mewn i coma yn 2010 pan oedd yn 40 oed.
Dywedodd iddo gael "real ofn fan 'na, a dihuno mas o'r coma a gweld fy nheulu, gallu gweld wrth eu gwynebe bo' nhw'n synnu i weld fi nôl".
Aeth ymlaen i ddisgrifio cyfnod tywyll ei fywyd - neu "y diwedd" iddo ef - a hynny ar ddiwedd 2022.
"Do'n i ddim yn teimlo'n iach. Yr unig ffordd o' ti'n teimlo'n olreit ac yn gallu gwneud rhywbeth wedd os oedd potel o win 'da ti."
Ond mae 2023 wedi bod yn flwyddyn bwysig iddo - dywedodd mai dyma'r "flwyddyn gyfan gynta' i fi fod yn sobor ers i fi fod yn yfed".
Yn ogystal â bod yn gerddor, a bod yn brif leisydd band Jess, fe dreuliodd gyfnod yn y coleg celf yng Nghaerfyrddin.
Ond dywedodd nad oedd ei dad, y bardd Dic Jones, yn "deall" ei fywoliaeth fel cerddor.
Roedd Dic Jones, neu Dic yr Hendre, yn cael ei adnabod fel un o'r mawrion o fewn y maes barddoni yng Nghymru, ac fe gafodd ei ethol yn Archdderwydd yn 2007.
Bu farw fis Awst 2009 yn 75 oed.
"Wedd e'n gallu gwerthfawrogi bo' ni'n cael llwyddiant, er bod e ddim yn gallu gwerthfawrogi shwt," meddai Brychan.
"Ma' beth o'dd dad yn 'neud yn hollol uwch na cherddoriaeth gyfoes."
Yr unig un i'w alw'n 'ti'
Wrth edrych yn ôl ar ei berthynas gyda'i dad, dywedodd: "Rhywbeth dwi'n difaru yw 'sen i wedi gallu gwerthfawrogi yn well ei allu fe, achos i fi, dad wedd e - dad y ffarmwr, dad yn rhegi, dad wedd yn colli ei dymer."
Aeth ymlaen i sôn am yr agosatrwydd oedd rhyngddyn nhw.
"O' ni'n agos. O' ni'n cwmpo mas agos," meddai.
"Fi wastad yn cael row da fy mrodyr... fi oedd yr unig un oedd yn galw 'ti' arno fe."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022